Hanes Llenyddiaeth Gymraeg hyd 1900 yw teitl cyfrol arloesol gan yr ysgolhaig Syr Thomas Parry (1904 - 1985) ar hanes llenyddiaeth Gymraeg. Fe'i cyhoeddwyd yn 1944 gan Wasg Prifysgol Cymru.
Mae'r llyfr yn garreg filltir yn hanes llenyddiaeth Gymraeg ac ysgolheictod Cymraeg am ei fod yr ymgais cyntaf i ysgrifennu arolwg o hanes llenyddiaeth Gymraeg yn ei grynswth (nid yw'n cynnwys llenyddiaeth Gymraeg yr ugeinfed ganrif am ei fod yn rhy gynnar i wneud hynny ar y pryd, ym marn yr awdur). Cyn cyhoeddi'r gyfrol cafwyd sawl llyfr ar gyfnodau yn hanes llenyddiaeth Gymraeg, yn arbennig ar lenyddiaeth yr Oesoedd Canol, ond heb ei drin fel un pwnc cyfan, ac roedd hyn yn ddiffyg amlwg mewn cymhariaeth â'r sefyllfa yn achos nifer o lenyddiaethau eraill.
Mae Thomas Parry yn rhannu ei waith yn ôl cyfnod, yn hytrach na themâu. Ceir 13 o benodau, yn rhychwantu cyfnod o bron i 1500 mlynedd. Mae llenyddiaeth gynnar a llenyddiaeth yr Oesoedd Canol yn cael tua hanner y gyfrol, gyda phennodau ar Yr Hengerdd, Canu'r Bwlch ("Amryfal Hen Ganu"), Rhyddiaith Cymraeg Canol, Beirdd y Tywysogion ("Barddoniaeth Llys") a Beirdd yr Uchelwyr ("Barddoniaeth yr Uchelwyr"). Neilltuir pennod gyfan i waith Dafydd ap Gwilym. Mae gweddill y gyfrol yn dilyn trefn gronolegol, o gyfnod y Dadeni Dysg hyd diwedd y 19g, gyda'r olaf yn cael ei rhannu'n dair pennod.
Er nad yw heb ei ddiffygion - yn bennaf oherwydd y cynnydd mewn gwybodaeth er ei gyhoeddi - roedd cyhoeddi'r llyfr yn hwb sylweddol i astudiaethau ar lenyddiaeth Gymraeg. Un o'i rinweddau yw'r modd y dangosodd Thomas Parry yn eglur ac yn awdurdodol mai ffugiadau llenyddol oedd llawer o'r hyn a gyhoeddwyd o lawysgrifau Iolo Morganwg. Yn ogystal mae'r llyfr yn ceisio gosod hanes llenyddiaeth Gymraeg yn ei gyd-destun cymdeithasol.
Cyfieithwyd y gwaith i'r Saesneg gan H. Idris Bell dan y teitl A History of Welsh Literature yn 1955. Ychwanegodd Bell atodiad ar lenyddiaeth Gymraeg yr 20g.
Gweler hefyd