Hafgan

Cymeriad yn y Gyntaf o Bedair Cainc y Mabinogi sy'n herio Arawn brenin Annwn am reolaeth y deyrnas honno unwaith bob blwyddyn yw Hafgan. Cyfeirir ato fel "Hafga

Cymeriad yn y Gyntaf o Bedair Cainc y Mabinogi sy'n herio Arawn brenin Annwn am reolaeth y deyrnas honno unwaith bob blwyddyn yw Hafgan. Cyfeirir ato fel "Hafgan brenin Annwn".[1]

I wneud iawn am ei ansyberwydd (anghwrteisi) yn llithro ei helgwn ar y carw a ddaliwyd gan helgwn Arawn, cytuna Pwyll i gyfnewid lle ag Arawn am flwyddyn gan gymryd arno bryd a gwedd y brenin. Ar ddiwedd blwyddyn o wledda a phob hyfrydwch yn y byd paradwysaidd hwnnw mae Pwyll yn ymladd yn lle Arawn â Hafgan ar ryd ar ffin y deyrnas ac yn ei drechu gan achub y deyrnas i Arawn. Credai W. J. Gruffydd fod Hafgan yn ymrithiad arall o Arawn ei hun.[2] Er bod Arawn wedi rhoi ei bryd a'i wedd ei hun i Bwyll, arosodd Pwyll yn ffyddlon ac ni chafodd gyfathrach â gwraig Arawn, er iddynt gysgu yn yr un gwely ac iddi ymbil arno a chwyno am ei ddiethrwch. Am fod Pwyll wedi ymddwyn mor gwrtais a bonheddig ac wedi trechu Hafgan hefyd, mae'n ennill cyfeillgarwch Arawn.

Cafodd Pwyll gyngor gan Arawn pan gytunodd newid lle ag ef. Dywed Arawn wrtho i beidio â gwrando ar Hafgan, ar ôl ei glwyfo'n angheuol, pan ymbilia iddo dorri ei ben. Pe dorrai ei ben byddai Hafgan yn fyw eto ac yn ei drechu.[3] Ceir motif cyffelyb mewn sawl chwedl, yn cynnwys y gerdd Saesneg Canol hir Sir Gawain and the Green Knight (sy'n deillio o ffynonellau Cymreig/Brythonig).

Credir fod Hafgan, fel mae ei enw yn awgrymu, yn ymgnawdoliad o'r Haf sy'n cael ei drechu gan y Gaeaf bob blwyddyn. Os felly, mae rhan o'r chwedl yn eisiau, gan y byddai Hafgan ei hun yn trechu Arawn (y Gaeaf) mewn brwydr arall, ar ddechrau'r haf, ac yn rheoli'r deyrnas am hanner y flwyddyn.

Gweler hefyd

Cyfeiriadau

  1. Ifor Williams (gol.), Pedeir Keinc y Mabinogi (Caerdydd, 1930; arg. newydd 1989), tud. 3.
  2. W. J. Gruffydd, Rhiannon.
  3. Ifor Williams (gol.), op. cit., tt. 3, 5-6.

Content Disclaimer

Informasi ini disarikan dari Wikipedia dan disajikan kembali untuk tujuan edukasi. Konten tersedia di bawah lisensi CC BY-SA 3.0. Kami tidak bertanggung jawab atas ketidakakuratan data yang bersumber dari kontribusi publik tersebut.

  1. The information displayed on this website is sourced in part or in whole from Wikipedia and has been adapted for the purpose of restating it. We strive to provide accurate and relevant information, however:
  2. There is no guarantee of absolute accuracy. Wikipedia is an open, collaborative project that can be edited by anyone, so information is subject to change.
  3. It is not intended to constitute professional advice. The content displayed is for informational and educational purposes only. For important decisions (e.g., medical, legal, or financial), please consult a professional.
  4. Content copyright. Wikipedia is licensed under the Creative Commons Attribution-ShareAlike License (CC BY-SA). This means that content may be reused with appropriate attribution and shared under a similar license.
  5. Responsible use. Any risk arising from the use of information from this website is entirely the responsibility of the user.