Un o atyniadau pennaf Cwm Ebwy ym mwrdeistref sirol Caerffili yw Gyrfa Goedwig Cwm Carn. Fe'i lleolir ym mhentref Cwmcarn ar safle'r hen bwll glo.
Erbyn heddiw, lleolir nifer gynyddol o lwybrau beicio mynydd, safleoedd picnic a chanolfan croeso yn ogystal â gwersyll i garafannau a phebyll. Mae gwybodaeth am hanes yr ardal, cerfluniau pren o gymeriadau'r Mabinogi a llwybr rhifedd i'w gweld hefyd. Mae'r rhan o'r safle ar gyfer ceir tua 7 milltir o hyd a cheir nifer o lwybrau trwy goedwigoedd yr ardal.
Dolenni allanol