Yn system gylchredol y gwaed, gwythïen yw pibell sy'n cario gwaed i'r galon. Mae hyn yn groes i'r rhydwelïau, sy'n cario gwaed o'r galon. Ychydig iawn o ocsig
| Enghraifft o: | dosbarth o strwythurau anatomegol, dosbarth o endidau anatomegol |
|---|---|
| Math | Gwaedlestr, segment of venous tree organ, endid anatomegol arbennig |
| Y gwrthwyneb | rhydweli |
| Rhan o | Gwaedlestr |
| Cysylltir gyda | venule, calon |
| Yn cynnwys | venous valve |
| Dynodwyr | |
| Freebase | /M/0dzb2 |
| Thesawrws y BNCF | 6692 |


Yn system gylchredol y gwaed, gwythïen yw pibell sy'n cario gwaed i'r galon. Mae hyn yn groes i'r rhydwelïau, sy'n cario gwaed o'r galon. Ychydig iawn o ocsigen sydd yn y gwaed sy'n teithio drwyddynt o'r meinweoedd yn ôl i'r galon; mae eithriadau i hyn: mae gwythïen y bogail sy'n teithio drwy linyn y bogail yn enghraifft o wythïen sy'n llawn ocsigen.
Mae gwythiennau chwyddiedig (neu varicose veins) i'w gweld ar y coesau, fel arfer. Oherwydd y pwysedd mawr ar wythiennau'r coesau pan fo person yn sefyll, gallant chwyddo gan beri i'r falfau beidio â gweithio'n iawn. Mae'r gwaed, yn ei dro, yn casglu yn y rhannau hyn gan chwyddo'r gwythiennau'n fwy byth. Gall gwythiennau chwyddiedig, fod yn boenus iawn a gallant gosi'n aruthrol. Y dull traddodiadol oedd eu tynnu drwy lawdriniaeth meddygol ond bellach ceir belydrau radio neu driniaeth laser.
Informasi ini disarikan dari Wikipedia dan disajikan kembali untuk tujuan edukasi. Konten tersedia di bawah lisensi CC BY-SA 3.0. Kami tidak bertanggung jawab atas ketidakakuratan data yang bersumber dari kontribusi publik tersebut.