Enw sant cynnar yw Gwyndaf Hen. Fe'i elwir hefyd yn Sant Gwyndaf (neu Gwnda). Mae'n bosibl iddo sefydlu llan neu eglwys yn Llanwnda, Sir Gaernarfon; Llanwnda, Sir Benfro a Chapel Gwnda ger Rhydlewis yn Sir Aberteifi.
Dywedir fod Gwyndaf Hen wedi teithio gyda Sant Cadfan o Lydaw i Ben Llŷn, yng nghwmni dilynwyr eraill hwnnw, yn cynnwys y seintiau Padarn, Tydecho, Henwyn, Meugant, Mael, Trinio, Sulien, Tanwg, Sadwrn, Lleuddad, Tecwyn a Maelrys.[1] Ymosododd y Ffrancod ar Lydaw yn 40au y 6g a pan bu farw Emyr Lydaw yn 546 cipiodd rym gan ei fab, Hoel, gan gorfodi nifer o'i deulu i ffoi. Sefydlodd nifer ohonynt eglwysi, neu lannau, yng Ngogledd Cymru. Roedd Gwyndaf Hen yn fab i Emyr Lydaw, ac fe briododd Gwenonwy, merch Meurig ap Tewdrig, Brenin Morgannwg a chwaer (yn ôl rhai awduron)[2] i'r Brenin Arthur. Cawsant ddau o blant, Meugan a Hywyn.
Mae'r unig ffynonellau am saint unigol yw bucheddau (neu gofiannau) a ysgrifennwyd ganrifoedd wedi i'r bobl hyn farw. Y gwir yw, nad ydym yn gwybod dim am Wyndaf ond ei fod wedi gadael ei enw ar eglwysi yng Nghymru - a hynny'n gynnar yn hanes Cristnogaeth Cymnru. Digon posibl hefyd yw'r awgrym ei fod yn hanu o Lydaw, gan mai o'r fan honno y daeth llawer o seintiau Cymru yn y 6g OC.
Cyfeiriadau
- ↑ Barber, Chris a Pykitt, David (1997). Journey to Avalon. tt. 230–1.CS1 maint: multiple names: authors list (link)
- ↑ T.D. Breverton, The Book of Welsh Saints (Glyndwr, 2000)