Mae Gwobrau Dewi Sant yn wobrau a roddir i unigolion a grwpiau gan Lywodraeth Cymru, fel cydnabyddiaeth o'u llwyddiannau. Maent yn cydnabod pobl sydd yn gwneud gwahaniaeth go iawn ar gyfer y wlad hon - naill ai gartref neu dramor. Dyma'r anrhydedd uchaf mae Llywodraeth Cymru yn ei roi i ddinasyddion Cymru yn genedlaethol. Sefydlwyd y Gwobrau hyn yn 2014.[1]
Mae'r Gwobrau'n ceisio adlewyrchu dyheadau Cymru a'i dinasyddion i fod yn wlad fodern, fywiog, gydag enw da cynyddol fel cenedl hyderus, sy'n gwerthfawrogi arloesedd, ysbryd cymunedol, ac yn fwy na dim ei holl bobl. Mae Gwobrau Dewi Sant yn gweithredu dros y genedl gyfan - nhw yw "gwobrau'r gwobrau" a'r gyrchfan naturiol i bawb sydd wedi ennill gwobrau sectorol neu gymunedol eraill. Mae'r cyfnod enwebu fel arfer yn rhedeg o fis Mawrth tan mis Hydref.[2]
Categorïau'r Gwobrau
Mae 9 categori yn gyfan gwbl, gydag wyth o'r rheiny'n cael eu henwebu gan y cyhoedd. Mae'r nawfed categori, 'Gwobr Arbennig y Prif Weinidog' yn cael ei ddewis gan Prif Weinidog Cymru; ni ellir enwebu rhywun yn uniongyrchol ar ei chyfer. Gallai adlewyrchu llwyddiant ar y cyd yn ogystal ag fel unigolyn. Gellir dethol yr enillydd o blith enillwyr y gwobrau eraill, neu gellir dethol rhywun arall.[2]
Y categorïau eraill yw:
Gwobr Dewrder: Gwobr i unigolyn neu grŵp yng Nghymru sydd wedi dangos ymddygiad neu gymeriad eithriadol o ddewr: wedi gwneud yr hyn sy'n iawn mewn sefyllfaoedd anodd. Gallai hyn olygu gwroldeb neu ddewrder corfforol, a gweithredu heb feddwl am y niwed posibl iddo'i hun.
Gwobr Dinasyddiaeth: Ar gyfer unigolyn neu grŵp yng Nghymru sydd wedi gwneud lles i'r cyhoedd drwy weithredu'n anhunanol. Gallai hyn adlewyrchu "dinasyddiaeth weithgar", ble mae pobl wedi mynd ati i wella eu cymuned drwy gyfranogiad economaidd, gweithredoedd cyhoeddus, gwaith gwirfoddol, ac ymdrechion tebyg i wella bywyd eu cyd-ddinasyddion.
Gwobr Diwylliant: Dyma wobr i unigolyn neu grŵp yng Nghymru sydd wedi rhagori yn y celfyddydau a mathau eraill o llwyddiannau diwyllianol, a hwnnw wedi ei fynegi mewn unrhyw gelfyddyd, iaith neu gyfrwng.
Gwobr Menter: Dyma wobr i unigolyn neu grŵp yng Nghymru sydd, drwy eu hymdrechion, wedi cael llwyddiant ysgubol mewn busnes. Gallai hyn gynnwys creu cyflogaeth ystyrlon iddo'i hun ac eraill.
Gwobr Arloesedd, Gwyddoniaeth a Thechnoleg: Mae'r wobr hon i unigolyn, grŵp neu dîm ymchwil yng Nghymru sydd wedi datblygu technegau neu ddulliau sy'n bodloni gofynion newydd ac wedi darparu cynnyrch, prosesau, gwasanaethau, technolegau neu syniadau mwy effeithiol sydd ar gael i'r gymdeithas yn gyffredinol.
Gwobr Ryngwladol: Mae'r wobr hon yn cydnabod unigolyn neu grŵp o Gymru sydd wedi hyrwyddo Cymru ar lwyfan y byd drwy eu gwaith, eu hamlygrwydd personol neu eu dylanwad neu sydd wedi gwneud cyfraniad pwysig yn rhyngwladol.
Gwobr Chwaraeon: Mae'r wobr hon ar gyfer tîm neu grŵp yng Nghymru sydd wedi llwyddo i ragori neu helpu i ragori yn y maes chwaraeon.
Gwobr Person Ifanc: Rhoddir yr wobr hon i berson ifanc neu grŵp eithriadol ac ysbrydoledig hyd at 19 mlwydd oed mewn unrhyw faes yng Nghymru.
Y Pwyllgor Ymgynghorol
Mae aelodau Pwyllgor Ymgynghorol y Gwobrau'n[dolen farw] cyflawni'r gwaith o ddethol a gwerthuso pobl a enwebwyd ac yn llunio rhestr fer o 3 Teilyngwr ar gyfer y Prif Weinidog er mwyn iddo ystyried a dewis pwy fydd yr enillwyr ym mhob categori. Mae'r Pwyllgor hwn yn amrywio o flwyddyn i flwyddyn. Yn y gorffennol bu'r pwyllgor yn cynnwys yr aelodau canlynol: Arglwydd Rowe-Beddoe, Catrin Pascoe (golygydd y Western Mail), y Farwnes Ilora Finlay, Prif Gwnstabl Jeff Farrar, Prif Swyddog Tan Canolbarth a Gorllewin Cymru Chris Davies, Efa Gruffudd-Jones (cyn-Brif Weithredwr yr Urdd) a Sioned Hughes (cyn-Brifweithredwr yr Urdd).
Teilyngwyr ac enillwyr
Dewisir 3 Teilyngwr ym mhob un o'r 8 categori uchod. Yna fe ddewisir un enillydd ym mhob categori gan y Prif Weinidog.