Aber Afon St Lawrence yn nwyrain Canada yw Gwlff St Lawrence. Dyma'r aber fwyaf yn y byd, ac mae o bwysigrwydd mawr ar gyfer masnach.
I'r gogledd o'r gwlff. ceir penrhyn Labrador, i'r dwyrain mae ynys Newfoundland, i'r de Ynys Cape Breton ac i'r gorllewin New Brunswick. Mae'n cysylltu a Chefnfor Iwerydd trwy ddau gulfor, Culfor Belle Isle rhwng Newfoundland a Labrador a Chulfor Cabot rhwng Newfoundland ac Ynys Cape Breton. Saif ynys Anticosti yn y Gwlff.