Un o daleithiau Mecsico yw Guerrero, a leolir yn ne-orllewin y wlad ar lan y Cefnfor Tawel. Ei phrifddinas yw Chilpancingo ond mae'r dalaith yn fwy adnabyddus am ei ddinas fwyaf, Acapulco, sy'n ganolfan fwyliau ryngwladol. Canolfan adnabyddus arall y dalith yw Taxco, sy'n enwog am ei phensaernïaeth draddodiadol.