Griff Rhys Jones

Griff Rhys Jones
GanwydGriffith Rhys Jones Edit this on Wikidata
16 Tachwedd 1953 Edit this on Wikidata
Caerdydd Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethactor, digrifwr, llenor, sgriptiwr, byrfyfyriwr, actor teledu Edit this on Wikidata
Cyflogwr
Gwobr/auOBE Edit this on Wikidata
Gwefanhttp://www.griff-rhysjones.co.uk/ Edit this on Wikidata

Digrifwr, llenor ac actor o Gymru yw Griffith "Griff" Rhys Jones (ganwyd 16 Tachwedd 1953)[1]. Daeth i sylw yn yr 1980au pen serennodd ynghyd â Mel Smith yn nifer o raglenni sgets comedi ar y teledu ym Mhrydain.

Bywyd cynnar ac addysg

Ganwyd Rhys Jones yng Nghaerdydd, yn fab i feddyg. Symudodd y teulu gyda gwaith ei dad, a mynychodd yr ysgol gynradd yn Midhurst, Sussex, yr ysgol iau yn Harlow, Essex ac Ysgol Brentwood, Essex.[2] Tra'r oedd y teulu'n byw yn Essex, roedd gan ei dad gwch yn West Mersea, a gallent hwylio o gwmpas arfordir Suffolk ac i'r Broads.[3]

Tra yn Ysgol Brentwood, cyfarfodd â Charlie Bean (a ddaeth yn Gyfarwyddwr Gweithredol Banc Lloegr yn ddiweddarach) a Douglas Adams (a aeth ymlaen i ysgrifennu The Hitchhiker's Guide to the Galaxy). Yn 1967, ymddangosodd yn nrama Macbeth fel y Prif Wrach, gyda Douglas Adams fel Siward a sarsiant. Roedd yn rhan o'r grŵp a'u gelwid yn "The Clique" gan y prifathro oherwydd eu campau direidus. Ar ôl cyfnod byr yn gweithio fel gwas pwmp-petrol, cafodd swydd blwyddyn-bwlch ar long P&O yr Uganda, yn gweithro i gwmni a oedd yn trefnu teithiau ysgol. Yn ei hunangofiant, Semi-Detached, mae'n disgrifio sut rhoddwyd iddo'r cyfrifoldeb o edrych ar ôl 600 o ferched ysgol o Ganada, ac yna nifer tebyg o ferched ysgol Albanaidd iau, ac mae'n disgrifio'r profiad fel "St Trinians ar y môr".[4] Fe ysgrifennodd at wyth o'r merched o Ganada yn ddiweddarach, gan golli ei wyryfdod i un ohonynt.[5]

Dilynodd Bean ac Adams i Brifysgol Caergrawnt, lle astudiodd hanes a Saesneg yng Ngoleg Emmanuel. Tra yno, ymunodd Rhys Jones â clwb Footlights Caergrawnt (a daeth yn is-lywydd yn 1976). Roedd hefyd yn lywydd y Clwb Dramatig Amatur. Ar y pryd, roedd ei uchelgais yn myd y theatr, yn cyfarwyddo yn arbennig.

Gyrfa

Ymunodd â adran Adloniant Ysgafn BBC Radio fel cyfarwyddwr hyfforddedig, gan weithio ar raglenni dychanol Week Ending a Brain of Britain.[6] Pan wahoddwyd ef i weld sioe ei arwr, Frankie Howerd, gan ei ffrindiau Clive Anderson a Rory McGrath, cymerodd le cynhyrchydd y sioe pan ddioddefodd hwnno o salwch fel canlyniad o'r straen o ddelio gyda'r digrifwr. Yn ddiweddarach cynhyrchodd Rhys Jones raglen Rowan Atkinson, Atkinson's People, ar gyfer y BBC.

Mae Rhys Jones wedi ymddangos ar Whose Line Is It Anyway? ddwywaith. Yr ail-ymddangosiad oedd y mwyaf cofiadwy, pan stwffiodd hosan John Sessions yn ei geg ychydig cyn diwedd y gêm Film and Theater Styles, bu bron iddo fethu tynnu'r hosan allan wedyn. Ei rôl fel yr adroddwr/lleuad yn Funnybones, rhaglen plant a enillodd nifer o wobrau, oedd ei berfformiad mwyaf ysblenydd. Chwaraeon ran ysgerbwd bach hefyd.

Chwaraeodd Rhys Jones rôl nifer o gymeriadau bychain ar Not the Nine O'Clock News, a daeth yn aelod parhaol o'r cast gan gymryd lle Chris Langham yn yr ail gyfres. Mae Rhys Jones yn dweud na gafodd y gwaith oherwydd ei allu na'i gymeriadau yn y sioeau cynt, ond oherwydd fod ei chwaer a'r cynhyrchydd John Lloyd yn caru ar y pryd.

Enillodd Rhys Jones wobr Theatr Laurence Olivier yn 1984 (ar gyfer tymor 1983) ar gyfer y Perfformiad Digri Gorau yn Charley's Aunt ac yn 1994 (ar gyfer tymor 1993) ar gyfer y Perfformiad Digri Gorau yn An Absolute Turkey. Mae hefyd wedi chwarae rhan "Toad" yng nghynhyrchiad y Theatr Genedlaethol o The Wind in the Willows yn 1990, yn ogystal â nifer o rôlau eraill yn y theatr.

Cydweithio gyda Mel Smith

Ar ôl gorffen Not the Nine O'Clock News, credodd Smith a Rhys Jones y byddent yn dod yn di-waith. Penderfynon wneud rhywbeth ynghylch hyn: gan greu ac ysgrifennu mwy o waith ar y cyd, a gan ddechrau cwmni rheoli i gynhyrchu eu rhaglenni eu hunain yn ogystal â rhaglenni perfformwyr eraill.

Ysgrifennu

Mae Rhys Jones wedi ysgrifennu neu cyd-ysgrifennu nifer o'r rhaglenni mae wedi ymddangos ynddynt, a nifer o lyfrau ynghlwm a'r rhaglenni.

Yn 2002, dechreuodd ysgrifennu llyfr o'r enw To the Baltic with Bob, yn disgrifio ei anturiaethau ar y môroedd mawr gyda'i ffrind hwylio Bob, tra maent yn teithio i St Petersburg, o borthladd i borthladd.[7] Cyhoeddwyd y llyfr yn 2003, gan ddweud: "Fel plentyn, rydych chi'n mynd allan i chwarae ac yn colli trac o amser a lle. Mae'n anoddach cael gafael ar y cyflwr gwynfyd hwnnw fel rydych chi'n heneiddio. Fe es i ar daith i St Petersburg am chwe mis gyda ffrindiau er mwyn ei adennill."[8]

Mae ei fywyd cynnar wedi cael ei grynhoi yn ei hunangofiant, Semi-Detached, a gyhoeddwyd yn 2006 gan Penguin Books. Cyhoeddwyd ei lyfr Mountain ym mis Gorffennaf 2007, i gydfynd a'r cyfres deledu ar BBC1.

Bywyd personol

Cyfarfu Rhys Jones a'i wraig, Jo, dylunydd graffeg, tra'n gweithio i'r BBC. Mae wedi disgrifio eu cyfarfod cyntaf, gan ddweud "Y diwrnod gyfarfyddon ni, roeddwn i'n hanner noeth,ac roedd hi'n taflu dŵr drostai."[9] Mae ganddynt ddau o blant ac maent yn byw rhan amser mewn dau gartref, yn West End, Llundain (yn Islington gynt) ac yn Holbrook, Suffolk.[10] Mae gan y teulu Labrador brown o'r enw "Cadbury".[11] Mae Rhys Jones yn berchen ar gwch hwylio glas o'r enw Undina, sy'n 50 mlynedd oed ac yn 45 troedfedd o hyd.

Bu Rhys Jones yn yfwr trwm gynt, ond mae'n lwyrymwrthodwr erbyn hyn: "Nid ydw i'n yfed, felly mae mynd i barti yn gallu bod yn ddiflas. Erbyn 11 o'r gloch, mae pawb arall ar blaned arall, ac nid ydych chi yno gyda nhw, fellu dwi'n tueddu i osgoi'r math yna o beth"[12] Nid yw'n bwyta gwenith ychwaith, ac yn ddiweddar, tra yn ei bedwardegau cynnar, mae wedi dechrau rhedeg yn ei amser hamdden.

Cyfeiriadau

  1. Who's Who
  2. The actor and director thinks back to his school days Archifwyd 2008-12-08 yn y Peiriant Wayback, Headliners, 1996.
  3. Suffolk: Estuary English[dolen farw], Mail on Sunday, 2001.
  4. Semi-Detached, Griff Rhys Jones' autobiography, Penguin, 2006
  5.  Michael Odell (5 Tachwedd 2006). This much I know: Griff Rhys Jones. The Guardian.
  6. Bio at Screen Online
  7.  Griff Rhys Jones. My Cardiff, ar Archif y We.
  8.  Michael Odell (5 Tachwedd 2006). This much I know: Griff Rhys Jones. The Guardian.
    "As a child you go out and play and you lose all track of time and space. It's harder and harder to attain that blissful state of absorption as you get older. I did a six-month sailing trip to St Petersburg with some mates just to get it back."
  9. "The day we met, I was semi-naked and she was throwing water over me."
  10.  Clowning around with Mr Jones. BBC (14 Mai 1999).
  11.  Restoration interview. BBC (29 Ebrill 2004).
  12.  Clowning around with Mr Jones. BBC (14 Mai 1999).
    "I don't drink so going to a party can become very tedious. By about 11 o'clock everybody goes to another planet and you're not there with them, so I tend to avoid that sort of thing."

Dolenni allanol

Strategi Solo vs Squad di Free Fire: Cara Menang Mudah!