Great Reset

Y Great Reset (bathiad: yr Ailosod Enfawr) oedd enw 50fed cyfarfod blynyddol Fforwm Economaidd y Byd (WEF), a gynhaliwyd ym mis Mehefin 2020. Mae'r enw'n parhau

Great Reset
Great Reset
Enghraifft o:cynnig a fwriedir, prosiect Edit this on Wikidata
CrëwrFforwm Economaidd y Byd Edit this on Wikidata
Gwefanhttps://www.weforum.org/great-reset/ Edit this on Wikidata
Dynodwyr
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Y Great Reset (bathiad: yr Ailosod Enfawr) oedd enw 50fed cyfarfod blynyddol Fforwm Economaidd y Byd (WEF), a gynhaliwyd ym mis Mehefin 2020. Mae'r enw'n parhau i gael ei ddefnyddio am yr ysgol o feddwl a ddaeth o'r fforwm. Daeth arweinwyr busnes a gwleidyddon proffil uchel ynghyd, ac a gynullwyd gan Charles, Tywysog Lloegr a’r WEF, gyda’r thema o newid cymdeithas a’r economi yn dilyn pandemig COVID-19.[1] Mae Fforwm Economaidd y Byd yn awgrymu’n gyffredinol mai’r ffordd orau o reoli byd sydd wedi’i globaleiddio yw trwy glymblaid hunan-ddethol o gorfforaethau rhyngwladol, llywodraethau a sefydliadau cymdeithas sifil (CSOs).[2]

Disgrifiodd prif swyddog gweithredol WEF, Klaus Schwab, dair elfen graidd i'r Ailosod Mawr: mae'r cyntaf yn ymwneud â chreu amodau ar gyfer "economi rhanddeiliaid" (stakeholder economy); mae'r ail gydran yn cynnwys adeiladu mewn ffordd fwy "gwydn, teg a chynaliadwy" - yn seiliedig ar fetrigau amgylcheddol, cymdeithasol a llywodraethu (ESG) a fyddai'n ymgorffori mwy o brosiectau seilwaith cyhoeddus gwyrdd; y drydedd gydran yw "harneisio'r Pedwerydd Chwyldro Diwydiannol" er lles y cyhoedd.[3][4] Yn ei phrif araith yn agor y deialogau, rhestrodd cyfarwyddwr y Gronfa Ariannol Ryngwladol, Kristalina Georgieva, dair agwedd allweddol ar yr ymateb cynaliadwy: twf gwyrdd, twf craffach, a thwf tecach.[5][1]

Yn nigwyddiad lansio'r Ailosod Mawr, rhestrodd y Tywysog Charles feysydd allweddol ar gyfer gweithredu, yn debyg i'r rhai a restrir yn ei Fenter Marchnadoedd Cynaliadwy, a gyflwynwyd ym mis Ionawr 2020. Roedd y rhain yn cynnwys ailfywiogi gwyddoniaeth, technoleg ac arloesi, symud tuag at drawsnewidiadau sero net yn fyd-eang, cyflwyno prisio carbon, ailddyfeisio strwythurau cymell hirsefydlog, ail-gydbwyso buddsoddiadau i gynnwys mwy o fuddsoddiadau gwyrdd (ond nid pob un), ac annog prosiectau seilwaith cyhoeddus gwyrdd.[1] (Gweler golchi gwyrdd).

Ym mis Mehefin 2020, cyhoeddwyd thema'r 50fed Fforwm Economaidd y Byd, Ionawr 2021 fel “Yr Ailosod Enfawr” (The Great Reset), gan gysylltu arweinwyr byd-eang personol ac ar-lein yn Davos, y Swistir â rhwydwaith aml-randdeiliaid mewn 400 o ddinasoedd ledled y byd.[6] Yr Ailosod Enfawr hefyd oedd prif thema uwchgynhadledd WEF yn Lucerne ym mis Mai 2021, a ohiriwyd tan 2022.[7][8]

Mae Fforwm Economaidd y Byd yn awgrymu’n gyffredinol mai’r ffordd orau o reoli byd sydd wedi’i globaleiddio yw trwy glymblaid hunan-ddethol o gorfforaethau rhyngwladol, llywodraethau a sefydliadau sifil (CSOs).[9] Mae'n gweld cyfnodau o ansefydlogrwydd byd-eang - fel yr argyfwng ariannol a'r pandemig COVID-19 - fel cyfleon i wthio ei rhaglen ei hun. Mae rhai beirniaid felly'n gweld yr Ailosod Enfawr fel parhad o strategaeth Fforwm Economaidd y Byd o ganolbwyntio ar bynciau ble ceir actifyddion megis diogelu'r amgylchedd[10] ac entrepreneuriaeth gymdeithasol[11] i guddio nodau plwocrataidd gwirioneddol y sefydliad.[12][13][14] Mae felly'n annog creu byd plwocrataidd, hyn byd sy'n cael ei reoli gan llond dwrn o bobl o gyfoeth neu incwm enfawr.

Yn ôl The New York Times, BBC News, The Guardian, Le Devoir a Radio Canada, tafl;wyd llwch i lygaid pobl, ac ymledodd damcaniaeth gydgynllwyniol gan grwpiau asgell dde eithafol Americanaidd sy'n gysylltiedig â QAnon ar ddechrau'r fforwm Ailosod Enfawr. Cynyddodd y sylw wrth i arweinwyr fel Arlywydd yr Unol Daleithiau Joe Biden a Phrif Weinidog Canada Justin Trudeau [15] ymgorffori syniadau'r Gynhadledd drwy ddefnyddio geiriau a syniadau am “ailosod” yn eu hareithiau.[16]

Cydrannau allweddol

Erbyn canol mis Ebrill 2020, yn erbyn cefndir y pandemig COVID-19, dirwasgiad COVID-19 , rhyfel prisiau olew Rwsia-Saudi Arabia 2020 a'r “cwymp ym mhrisiau olew” o ganlyniad,[17] disgrifiodd cyn- Lywodraethwr Banc Lloegr, Mark Carney newidiadau sylfaenol posibl mewn erthygl yn The Economist. Dywedodd Carney y bydd "stakeholder capitalism", mewn byd ôl-COVID, ” yn cael ei brofi gan y bydd “cwmnïau’n cael eu barnu yn ôl ‘yr hyn a wnaethant yn ystod y rhyfel a'r pandemig,’ sut y gwnaethant drin eu gweithwyr, eu cyflenwyr a’u cwsmeriaid, pwy oedd yn rhannu a phwy oedd yn safio.”[18] Bydd y "gagendor rhwng yr hyn y mae'r farchnad yn ei werthfawrogi a'r hyn y mae pobl yn ei werthfawrogi" yn cau.[18] Mewn byd ôl-COVID, mae'n rhesymol disgwyl y bydd mwy o bobl eisiau gwelliannau mewn rheoli risg, mewn rhwydi diogelwch cymdeithasol a meddygol, ac am roi mwy o sylw i arbenigwyr gwyddonol. Bydd yr hierarchaeth werthoedd newydd hon yn galw am ailosod y ffordd yr ydym yn delio â newid hinsawdd, sydd, fel y pandemig, yn ffenomen fyd-eang. Ni all unrhyw un “hunan-ynysu” rhag newid hinsawdd felly mae angen i ni i gyd “weithredu ymlaen llaw ac mewn undod”.[18] Yn ei Ddarlithoedd Reith ar y BBC yn 2020, datblygodd Carney ei thema o hierarchaethau gwerth yn ymwneud â thair argyfwng - credyd, COVID a'r hinsawdd.

Yn ôl erthygl WEF ar 15 Mai, 2020, mae COVID-19 yn cynnig cyfle i “ailosod ac ail-lunio” y byd mewn ffordd sy'n cyd-fynd yn well â Nodau Datblygu Cynaliadwy 2030 y Cenhedloedd Unedig (SDG) ee newid hinsawdd, anghydraddoldeb a thlodi.[19]

Mae hyn yn cynnwys ailosod (neu aildrefnu) marchnadoedd llafur, wrth i fwy o bobl weithio o bell gan gyflymu'r broses o "ddyfodol gwaith". Bydd yr ailosod yn datblygu gwaith sydd eisoes wedi dechrau i baratoi ar gyfer y trawsnewid i'r Pedwerydd Chwyldro Diwydiannol trwy uwchsgilio ac ailsgilio gweithwyr.[20] Pryder arall ôl-COVID a godwyd gan y WEF yw diogelwch bwyd gan gynnwys y “risg o darfu ar gadwyni cyflenwi bwyd”, a’r angen am “gydlynu polisi byd-eang” i atal “amddiffyn bwyd rhag dod yn normal newydd ôl-bandemig.” [21]

Yn ei phrif anerchiad ar 3 Mehefin 2020 yn agor y fforwm dywedodd Kristalina Georgieva, Rheolwr Gyfarwyddwr y Gronfa Ariannol Ryngwladol (IMF) y bu “chwistrelliad enfawr o gyllid ariannol yn ysgogiad i helpu gwledydd i ddelio â’r argyfwng hwn” a’i bod yn “holl bwysig bod y twf hwn yn arwain at fyd gwyrddach, callach a thecach yn y dyfodol”.[5][22] Rhestrodd Georgieva dair agwedd ar yr Ailosod Mawr; twf gwyrdd, twf doethach a thwf tecach. Gallai buddsoddiadau'r llywodraeth a chymhellion y llywodraeth i fuddsoddwyr preifat "gefnogi twf carbon isel sy'n gallu gwrthsefyll yr hinsawdd" fel "plannu mangrofau, adfer tir, ailgoedwigo neu inswleiddio adeiladau."[5] Gyda phrisiau olew yn isel, roedd yr amseriad yn iawn i ddileu cymorthdaliadau tanwydd ffosil a chyflwyno prisiau carbon i gymell buddsoddiadau yn y dyfodol. [5] Mae pandemig COVID-19 yn gyfle i lunio adferiad economaidd a chyfeiriad cysylltiadau byd-eang, economïau a blaenoriaethau yn y dyfodol. [23]

Pedwerydd Chwyldro Diwydiannol

Defnyddiodd Klaus Schwab yr ymadrodd "Pedwerydd Chwyldro Diwydiannol" mewn erthygl yn 2015 a gyhoeddwyd gan Materion Tramor, ac yn 2016, thema cyfarfod blynyddol Fforwm Economaidd y Byd yn Davos-Klosters, y Swistir, oedd "Meistroli'r Pedwerydd Chwyldro Diwydiannol".[24] Yn ei erthygl 2015, dywedodd Schwab fod y chwyldro diwydiannol cyntaf yn cael ei bweru gan "dŵr a stêm" i "fecaneiddio cynhyrchu". Trwy bŵer trydanol, cyflwynodd yr ail chwyldro diwydiannol gynhyrchu màs. Fe wnaeth electroneg a thechnolegau gwybodaeth awtomeiddio'r broses gynhyrchu yn y trydydd chwyldro diwydiannol. Yn y pedwerydd chwyldro diwydiannol mae'r llinellau rhwng "sfferau corfforol, digidol a biolegol" yn ffiniau llwyd iawn ac mae'r chwyldro cyfredol hwn, a ddechreuodd gyda'r chwyldro digidol yng nghanol y 1990au, yn "nodweddu cyfuniad o dechnolegau."[25] Roedd y cyfuniad hwn o dechnolegau'n cynnwys "meysydd megis deallusrwydd artiffisial, roboteg, Rhyngrwyd Pethau, cerbydau ymreolaethol, argraffu 3-D, nanodechnoleg, biotechnoleg, gwyddor deunyddiau, storio ynni a chyfrifiadura cwantwm."[25]

Ychydig cyn cyfarfod blynyddol WEF 2016 o’r Cynghorau Dyfodol Byd-eang, uwchlwythodd Ida Auken—AS o Ddenmarc, a oedd yn arweinydd byd-eang ifanc ac yn aelod o’r Cyngor ar Ddinasoedd a Threfoli, bost blog a gyhoeddwyd yn ddiweddarach gan Forbes yn dychmygu sut gallai technoleg wella ein bywydau erbyn 2030 pe bai nodau datblygu cynaliadwy'r Cenhedloedd Unedig (SDG) yn cael eu gwireddu trwy'r cyfuniad hwn o dechnolegau.[26] Dychmygodd Auken sut y byddai cyfathrebu digidol, yna cludiant, llety a bwyd, yn arwain at fwy o fynediad a llai o gostau. Gan fod popeth am ddim, gan gynnwys ynni glân, nid oedd angen bod yn berchen ar gynhyrchion neu eiddo tiriog (adeiladau a thir).[26] Yn ei senario ddychmygol, cafodd llawer o argyfyngau'r 21g gynnar - "clefydau ein ffordd o fyw, newid hinsawdd, yr argyfwng ffoaduriaid, diraddio amgylcheddol, dinasoedd llawn tagfeydd traffig, llygredd dŵr, llygredd aer, aflonyddwch cymdeithasol a diweithdra" - a sut i'w datrys trwy dechnolegau newydd.[26] Mae'r erthygl wedi'i beirniadu fel un sy'n portreadu iwtopia am bris colli preifatrwydd a rhyddid yr unigolyn. Mewn ymateb, dywedodd Auken mai'r bwriad oedd "dechrau trafodaeth am rai o fanteision ac anfanteision y datblygiadau technolegol presennol."[27]

Mae arweinwyr gwleidyddol fel Prif Weinidog Canada Justin Trudeau ac Arlywydd yr Unol Daleithiau Joe Biden wedi cymeradwyo’r syniad o “adeiladu’n ôl yn well”, yn ogystal â Phrif Weinidog Lloegr, Boris Johnson.[28]

Cyhoeddodd cylchgrawn Time gyfres o’r enw “The Great Reset: How to Build a Better World Post-COVID-19”, a oedd yn cynnwys casgliad o erthyglau, colofnau, fideos siarad a chyfweliadau.

Beirniadaeth

Mae rhai beirniaid felly yn ei weld fel parhad gan strategaeth Fforwm Economaidd y Byd i ganolbwyntio ar bynciau actifyddion megis diogelu'r amgylchedd[29] ac entrepreneuriaeth gymdeithasol[30] i guddio nodau plwocrataidd gwirioneddol sefydliadau a chyfoethogiuon mawr y byd.[31][32][33]

Yn ei adolygiad o lyfr 2020 a gyd-awdurwyd gan Schwab a Malleret - a’r agenda'r Great Reset yn gyffredinol - dywedodd Ben Sixsmith, un o gyfranwyr The Spectator, fod yr Ailosod Enfawr yn set o “syniadau drwg… a fabwysiadwyd yn rhyngwladol gan rhai o’r bobl gyfoethocaf a mwyaf pwerus yn y byd.”[34][4] Disgrifiodd Sixsmith adrannau o'r llyfr fel rhai "o ddifrif", digalon, diymhongar a di-flewyn ar dafod.[35]

Uwchgynhadledd WEF 2021

Yr Ailosod Mawr oedd prif thema uwchgynhadledd WEF 2021, ond cafodd ei ohirio tan 2022.[7][8]

Theori cynllwyn

Gall y term “Ailosod Enfawr” hefyd gyfeirio at theori cynllwyn, a enwyd ar ôl y gynhadledd, sy’n awgrymu bod rhai arweinwyr byd wedi cynllunio a gweithredu pandemig COVID-19 er mwyn cymryd rheolaeth o economi’r byd.[36]

Gweler hefyd

Llyfryddiaeth

  • Schwab, Klaus; Malleret, Thierry (2020). COVID-19 : the great reset (arg. 1). Cologny/Geneva Schweiz: Forum Publishing. ISBN 9782940631124. OCLC 1193302829.

Cyfeiriadau

  1. 1.0 1.1 1.2 Inman, Phillip (3 Mehefin 2020). "Pandemic is chance to reset global economy, says Prince Charles". The Guardian. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 17 Tachwedd 2020. Cyrchwyd 18 Tachwedd 2020.
  2. Martens, Jens (2020). "The Role of Public and Private Actors and Means in Implementing the SDGs: Reclaiming the Public Policy Space for Sustainable Development and Human Rights". Sustainable Development Goals and Human Rights. Interdisciplinary Studies in Human Rights. 5. tt. 207–220. doi:10.1007/978-3-030-30469-0_12. ISBN 978-3-030-30468-3. |access-date= requires |url= (help)
  3. Schwab, Klaus (3 Mehefin 2020). "Now is the time for a 'great reset'". World Economic Forum. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 30 Ionawr 2021. Cyrchwyd February 1, 2021.
  4. 4.0 4.1 Schwab, Klaus; Malleret, Thierry (9 Gorffennaf 2020). COVID-19: The Great Reset. Agentur Schweiz. ISBN 978-2-940631-12-4.
  5. 5.0 5.1 5.2 5.3 Georgieva, Kristalina (3 Mehefin 2020). "Remarks to World Economic Forum". The Great Reset. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 26 Ionawr 2021. Cyrchwyd 26 Ionawr 2021.
  6. "Event: World Economic Forum Annual Meeting 2021". International Institute for Sustainable Development (IISD). SDG Knowledge Hub. Archifwyd o'r gwreiddiol ar January 27, 2021. Cyrchwyd January 26, 2021.
  7. 7.0 7.1 "2021 Davos summit shifted to Lucerne in May". France 24. 7 Hydref 2020. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 1 Tachwedd 2020. Cyrchwyd November 18, 2020.
  8. 8.0 8.1 "WEF cancels 2021 annual meeting, says next summit in 1st half of 2022". The Economic Times.
  9. Martens, Jens (2020). "The Role of Public and Private Actors and Means in Implementing the SDGs: Reclaiming the Public Policy Space for Sustainable Development and Human Rights". Sustainable Development Goals and Human Rights. Interdisciplinary Studies in Human Rights. 5. tt. 207–220. doi:10.1007/978-3-030-30469-0_12. ISBN 978-3-030-30468-3. |access-date= requires |url= (help)
  10. "Environment and Natural Resource Security". World Economic Forum. World Economic Forum. Cyrchwyd 2020-05-03.
  11. "Schwab Foundation for Social Entrepreneurship – Home". Schwabfound.org. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2019-05-04.
  12. "The high priests of plutocracy all meet in Davos. What good can come from that?". The Guardian. 2020-01-25. Cyrchwyd 2021-09-24.
  13. "Should We Reset? Eine Rezension von Klaus Schwab und Thierry Mallerets 'COVID-19: The Great Reset'" (yn German), The Journal of Value Inquiry: pp. 1–8, 2021-02-17, doi:10.1007/s10790-021-09794-1, ISSN 1573-0492, PMC 7886645
  14. "Dominion of Opinion - Quite Degenerate". Cicero Online (yn Saesneg).
  15. De Rosa, Nicholas (18 Tachwedd 2020). "Le "Great Reset" n'est pas un complot pour contrôler le monde". Radio-Canada (yn Ffrangeg). Canadian Broadcasting Corporation. Archifwyd o'r gwreiddiol ar November 20, 2020. Cyrchwyd January 27, 2021.
  16. Goodman, Jack; Carmichael, Flora (22 Tachwedd 2020). "The coronavirus pandemic 'great reset' theory and a false vaccine claim debunked". BBC News. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 22 Tachwedd 2020. Cyrchwyd 22 Tachwedd 2020.
  17. Orland, Kevin (7 Ebrill 2020). "Alberta Premier Kenney sees negative oil prices, $20-billion deficit in 'the greatest challenge of our generation'". National Post via Bloomberg News. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 4 Chwefror 2021. Cyrchwyd 7 Ebrill 2020.
  18. 18.0 18.1 18.2 "Mark Carney on how the economy must yield to human values". The Economist. 16 Ebrill 2020. ISSN 0013-0613. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 25 Ionawr 2021. Cyrchwyd 26 Ionawr 2021.
  19. Bhattacharya, CB (15 Mai 2020). "How the great COVID-19 reset can help firms build a more sustainable future". World Economic Forum. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 25 Ionawr 2021. Cyrchwyd 26 Ionawr 2021.
  20. "5 ways to reset labour markets after coronavirus recovery". World Economic Forum. 1 Mai 2020. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 24 Tachwedd 2020. Cyrchwyd 26 Tachwedd 2021.
  21. "How can we prevent a COVID-19 food crisis?". World Economic Forum. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2021-01-16. Cyrchwyd 2021-01-27.
  22. Ignatius, Washington Post Live IMF Managing Director Kristalina Georgieva with David; Columnist, Washington Post. "The Path Forward: The Global Economy". IMF. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2021-01-18. Cyrchwyd 2021-01-27.
  23. "The Great Reset". World Economic Forum. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 5 Mehefin 2020. Cyrchwyd 19 Tachwedd 2020.
  24. Marr, Bernard. "Why Everyone Must Get Ready For The 4th Industrial Revolution". Forbes (yn Saesneg). Archifwyd o'r gwreiddiol ar 13 Mai 2020. Cyrchwyd 14 Chwefror 2018.
  25. 25.0 25.1 Schwab, Klaus (12 December 2015). "The Fourth Industrial Revolution". Foreign Affairs. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 26 Ionawr 2021. Cyrchwyd 1 February 2021.
  26. 26.0 26.1 26.2 Auken, Ida (10 Tachwedd 2016). "Here's how life could change in my city by the year 2030". Forbes. Archifwyd o'r gwreiddiol ar February 4, 2021. Cyrchwyd 1 Chwefror 2021.
  27. Auken, Ida (11 Tachwedd 2016). "Here's how life could change in my city by the year 2030". WEF. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 1 Chwefror 2021. Cyrchwyd 1 Chwefror 2021.
  28. Wherry, Aaron (27 Tachwedd 2020). "The Conservatives fire up a phoney war over the 'Great Reset' theory". CBC News. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 27 Tachwedd 2020. Cyrchwyd 27 Ionawr 2021.
  29. "Environment and Natural Resource Security". World Economic Forum. World Economic Forum. Cyrchwyd 2020-05-03.
  30. "Schwab Foundation for Social Entrepreneurship – Home". Schwabfound.org. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2019-05-04.
  31. "The high priests of plutocracy all meet in Davos. What good can come from that?". The Guardian. 2020-01-25. Cyrchwyd 2021-09-24.
  32. "Should We Reset? Eine Rezension von Klaus Schwab und Thierry Mallerets 'COVID-19: The Great Reset'" (yn German), The Journal of Value Inquiry: pp. 1–8, 2021-02-17, doi:10.1007/s10790-021-09794-1, ISSN 1573-0492, PMC 7886645
  33. "Dominion of Opinion - Quite Degenerate". Cicero Online (yn Saesneg).
  34. Sixsmith, Ben (17 Tachwedd 2020). "What is the Great Reset?". The Spectator. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 17 Tachwedd 2020. Cyrchwyd 18 Tachwedd 2020.
  35. Sixsmith, Ben (17 Tachwedd 2020). "What is the Great Reset?". The Spectator. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 17 Tachwedd 2020. Cyrchwyd November 18, 2020.
  36. "The coronavirus pandemic 'Great Reset' theory and a false vaccine claim debunked". BBC News (yn Saesneg). 22 Tachwedd 2020. Cyrchwyd 18 Gorffennaf 2021.

Ailosod Enfawr

Content Disclaimer

Informasi ini disarikan dari Wikipedia dan disajikan kembali untuk tujuan edukasi. Konten tersedia di bawah lisensi CC BY-SA 3.0. Kami tidak bertanggung jawab atas ketidakakuratan data yang bersumber dari kontribusi publik tersebut.

  1. The information displayed on this website is sourced in part or in whole from Wikipedia and has been adapted for the purpose of restating it. We strive to provide accurate and relevant information, however:
  2. There is no guarantee of absolute accuracy. Wikipedia is an open, collaborative project that can be edited by anyone, so information is subject to change.
  3. It is not intended to constitute professional advice. The content displayed is for informational and educational purposes only. For important decisions (e.g., medical, legal, or financial), please consult a professional.
  4. Content copyright. Wikipedia is licensed under the Creative Commons Attribution-ShareAlike License (CC BY-SA). This means that content may be reused with appropriate attribution and shared under a similar license.
  5. Responsible use. Any risk arising from the use of information from this website is entirely the responsibility of the user.