Ffilm wyddonias 3D o 2013 yw Gravity, sy'n gyd-gynhyrchiad Prydeinig ac Americanaidd.[3][4] Mae rhai wedi ei disgrifio'n ffilm ddrama a leolir y
Poster marchnata | |
|---|---|
| Cyfarwyddwr | Alfonso Cuarón |
| Cynhyrchydd | Alfonso Cuarón David Heyman |
| Ysgrifennwr | Alfonso Cuarón Jonás Cuarón |
| Serennu | Sandra Bullock George Clooney |
| Cerddoriaeth | Steven Price |
| Sinematograffeg | Emmanuel Lubezki |
| Golygydd | Alfonso Cuarón Mark Sanger |
| Dylunio | |
| Cwmni cynhyrchu | Esperanto Filmoj Heyday Films |
| Dosbarthydd | Warner Bros. Pictures |
| Dyddiad rhyddhau | 28 Awst 2013 (Fenis) 4 Hydref 2013 (UDA) 8 Tachwedd 2013 (DU) |
| Amser rhedeg | 90 munud[1] |
| Gwlad | Y Deyrnas Unedig[2] Unol Daleithiau America[2] |
| Iaith | Saesneg |
| Cyllideb | $100 miliwn[3] |
| Refeniw gros | $688,508,962[3] |
Ffilm wyddonias 3D o 2013 yw Gravity, sy'n gyd-gynhyrchiad Prydeinig ac Americanaidd.[3][4] Mae rhai wedi ei disgrifio'n ffilm ddrama a leolir yn y gofod yn hytrach na ffilm wyddonias.[5][6] Cyfarwyddodd Alfonso Cuarón y ffilm yn ogystal â'i chyd-ysgrifennu, cyd-gynhyrchu a chyd-olygu, ac mae'n serennu Sandra Bullock a George Clooney fel gofodwyr sy'n ceisio dychwelyd i'r Ddaear wedi dinistriad gwennol ofod tra mewn orbit.
Ysgrifennodd Cuarón y sgript gyda'i fab Jonás gan gynnig y syniad i Universal Studios. Gwerthwyd hawliau'r prosiect i Warner Bros. yn y bôn. Cynigodd y stiwdio'r brif ran fenywaidd i nifer o actoresau cyn dewis Bullock. Robert Downey, Jr. oedd y prif actor cyn iddo adael y prosiect a chymerodd Clooney'r rhan. Cynhyrchwyd y ffilm gan Cuarón a David Heyman, a weithiodd ynghynt gyda Cuarón ar Harry Potter and the Prisoner of Azkaban. Creodd y cwmni Framestore yn Llundain y mwyafrif o'r effeithiau gweledol ar gyfer y ffilm, sy'n llenwi dros 80 munud o'r amser rhedeg.
Gravity oedd ffilm agoriadol y ddegfed Ŵyl Ffilm Fenis ar drigain ym mis Awst 2013.[7] Dangoswyd y ffilm yn gyntaf yng Ngogledd America tridiau'n ddiweddarach yng Ngŵyl Ffilm Telluride. Rhyddhawyd ar led yr Unol Daleithiau a Chanada ar 4 Hydref 2013, ac yn y Deyrnas Unedig ar 8 Tachwedd 2013. Cafodd y ffilm clod gan feirniaid a chynulleidfaoedd, gan dderbyn canmoliaeth am waith y sinematograffydd Emmanuel Lubezki, sgôr gerddorol Steven Price, y cyfarwyddo gan Cuarón, perfformiad Bullock, a'r effeithiau gweledol gan Framestore.
Cafodd y ffilm ei enwebu am 10 o Wobrau'r Academi, gan gynnwys y Ffilm Orau, y Cyfarwyddwr Gorau am Cuarón a'r Actores Orau am Bullock. Enillodd y ffilm saith o'r Critics Choice Awards a Gwobr Golden Globe am y Cyfarwyddwr Gorau i Cuarón.
Informasi ini disarikan dari Wikipedia dan disajikan kembali untuk tujuan edukasi. Konten tersedia di bawah lisensi CC BY-SA 3.0. Kami tidak bertanggung jawab atas ketidakakuratan data yang bersumber dari kontribusi publik tersebut.