Cyn-chwaraewr Rygbi'r Undeb o Gymru yw Graham Price MBE (ganwyd 24 Tachwedd 1951). Enillodd 41 o gapiau dros Cymru, yn chwarae fel prop.
Ganed ef yn Moascar yn yr Aifft, ac addysgwyd ef yn Ysgol Gorllewin Mynwy, Pontypwl cyn astudio peirianneg sifil yn UWIST. Bu'n chwarae dros glwb Pontypwl fel prop pen-tyn. Gyda Bobby Windsor a Charlie Faulkner, roedd yn ffurfio'r "Rheng flaen Pontypwl" a anfarwolwyd yng nghân Max Boyce, ac a elwid hefyd y "Viet Gwent".
Enillodd ei gap gyntaf dros Gymru yn erbyn Ffrainc yn 1975 ym Mharis, a sgoriodd gais o 70 llath. Roedd yn rhan allweddol o'r tîm Cymreig a gyflawnodd y Gamp Lawn yn 1976 a 1978. Ymddeolodd o rygbi rhyngwladol yn 1983; roedd ei gêm olaf hefyd yn erbyn Ffrainc ym Mharis.
Aeth ar daith gyda’r Llewod i Seland Newydd yn 1977, i Dde Affrica yn 1980 a Seland Newydd eto yn 1983. Chwaraeodd mewn deuddeg gêm brawf yn olynol i'r Llewod.
Llyfryddiaeth