Clefyd a achosir gan gasgliad o asid wrig ydy cymalwst neu Gowt (arthritis metabolaidd). Gyda'r cyflwr hwn, mae crisialau o monosodiwm wraidd neu asid wrig yn c
Clefyd a achosir gan gasgliad o asid wrig ydy cymalwst neu Gowt (arthritis metabolaidd). Gyda'r cyflwr hwn, mae crisialau o monosodiwm wraidd neu asid wrig yn cael eu dyddodi ar gartilag cymalog y cymalau neu dendonau sydd o'i amgylch. Mae'r crisialau hyn yn achosi llid a phoen, a all fod yn ddifrifol. Os aiff y cyflwr yn ddiatal, mae'r crisialau'n ffurfio tophi sy'n gallu achosi niwed sylweddol i'r meinwe. Mae cymalwst yn ganlyniad o gyfuniad o lefelau uwch o asid wrig ac asidedd cyffredin y llif y gwaed. Nid yw lefelau uwch o asid wrig (hyperwrisemia), na asidedd ynddynt eu hunain yn ddigon i achosi cymalwst.
Informasi ini disarikan dari Wikipedia dan disajikan kembali untuk tujuan edukasi. Konten tersedia di bawah lisensi CC BY-SA 3.0. Kami tidak bertanggung jawab atas ketidakakuratan data yang bersumber dari kontribusi publik tersebut.