Goema

Mae Goema, (ysgrifennir hefyd fel Ghomma a Ghoema; ynganer [ˈɡuma]) yn fath o ddrwm llaw a ddefnyddiwyd gan gerddorion y Cape Minstrel Carnival a cherddoriaet

Goema
Goema
Mathofferyn cerdd Edit this on Wikidata
Dynodwyr

Mae Goema, (ysgrifennir hefyd fel Ghomma a Ghoema; ynganer [ˈɡuma]) yn fath o ddrwm llaw a ddefnyddiwyd gan gerddorion y Cape Minstrel Carnival a cherddoriaeth Cape Jazz yn Kaapstad, De Affrica. Mae'r gair hefyd wedi dod i ddisgrifio genre o gerddoriaeth sy'n un o dylanwadu ar Cape Jazz.[1]

Ymysg y cerddorion Goema nodweddiadol mae Mac McKenzie, Hilton Schilder, Errol Dyers a Alex van Heerden.[2]

Y Drwm

Prosesiwn drwy Kaapstad i gofnodi diwedd caethwasiaeth, noder y drymiau a'r offeryn chwyth

Mae'r drwm ghoema gydag agoriad ar y gwaelod. Credir iddo gyrraedd De Affrica gan gaethwasion Malaya o ynysoedd y Dwyrain Pell oedd yn berchen i'r Iseldiroedd a chwmni Vereenigde Oost-Indische Compagnie a wladychodd tiriogaeth De Affrica yn yr 18g. Roedd y drymiau a ddefnyddiwyd gan y brodorion San wedi eu cau ar y gwaelod. Defnyddiwyd unrhyw ddefnydd siâp tiwb i wneud y drymiau syml ghoema yn wreiddiol.

Clywir y gerddoriaeth ar y cyfryngau a chysylltir hi â Gŵyl yr Ail Dydd Calan (Tweede Nuwe jaar) a dathliadau y Kaapse Klopse.

Arddull

Mae arddull ghoema yn hybrid sy'n cynnwys elfennau o wahanol ddiwylliannau a welir yn Kaapstad gan gynnwys; dawnsiau gwerin Afrikaaner, tonau emynol a harmoniau wedi eu cyfeilio i sain banjo ffyrnig a offerynnau chwyth cyrn. Clywir hyn mewn caneuon megis Daar kom die Alibama [3] a sawl un arall [4] a Ceir 'ebychiad' syncopatig nodweddiadol yn y gerddoriaeth sy'n rhoi toriad yn y curiad a rhoi ymdeimlad o symud neu hwgwd.[5] Cysylltir y gerddoriaeth gyda chymuned y Kaapse Kleurling ('Cape Coloured') Mwslemaidd a Christonogol Tref y Penrhyn.

Mae'r gerddoriaeth hefyd wedi dylanwadu ar arddull jazz De Affrica fel clywir mewn canueon megis Goema Goema gan Mac McKenzie & the Goema Captains of Cape Town.[6]

Gwobrau Ghoema

Mae'r term hefyd wedi ei mabwysiadu ar gyfer y Ghoema-musiektoekennings (Gwobrau Cerddoriaeth Ghoma)[7] sef y prif wobr ar gyfer cerddoriaeth a cherddorion yn yr iaith Afrikaans, beth bynnag eu harddull o gerddoriaeth. Sefydlwyd y gwobrau yn 2012 a darlledir ar wasanaeth deledu lloeren Afrikaans, KykeNet.[8]

Cerddoriaeth De Affrica, Gweler Hefyd

Cyfeiriadau

  1. Haslop, Richard. "Goema Music Of South Africa". Perfect Sound Forever. Cyrchwyd 13 Ebrill 2017.
  2. Richmond, Simon (2009). Cape Town. Footscray, Vic. London: Lonely Planet. ISBN 9781741048919.
  3. https://www.youtube.com/watch?v=lQUJG_McYxg
  4. https://www.youtube.com/watch?v=iFbNAeVFneo
  5. https://www.furious.com/perfect/goema.html
  6. https://www.youtube.com/watch?v=HMkv5k865hQ
  7. http://ghoema.co.za/
  8. https://kyknet.dstv.com/South/home

Dolenni allanol

Content Disclaimer

Informasi ini disarikan dari Wikipedia dan disajikan kembali untuk tujuan edukasi. Konten tersedia di bawah lisensi CC BY-SA 3.0. Kami tidak bertanggung jawab atas ketidakakuratan data yang bersumber dari kontribusi publik tersebut.

  1. The information displayed on this website is sourced in part or in whole from Wikipedia and has been adapted for the purpose of restating it. We strive to provide accurate and relevant information, however:
  2. There is no guarantee of absolute accuracy. Wikipedia is an open, collaborative project that can be edited by anyone, so information is subject to change.
  3. It is not intended to constitute professional advice. The content displayed is for informational and educational purposes only. For important decisions (e.g., medical, legal, or financial), please consult a professional.
  4. Content copyright. Wikipedia is licensed under the Creative Commons Attribution-ShareAlike License (CC BY-SA). This means that content may be reused with appropriate attribution and shared under a similar license.
  5. Responsible use. Any risk arising from the use of information from this website is entirely the responsibility of the user.