Roedd Glyn Stephens (29 Tachwedd 1891 – 22 Ebrill 1965) yn brop i rygbi undeb rhyngwladol Cymru a chwaraeodd rygbi clwb i Gastell-nedd. Enillodd 10 cap ar gyf
| Enw llawn | Glyn Stephens | ||
|---|---|---|---|
| Dyddiad geni | 29 Tachwedd 1891 | ||
| Man geni | Castell-nedd[1] | ||
| Dyddiad marw | 22 Ebrill 1965 (73 oed) | ||
| Lle marw | Castell-nedd | ||
| Ysgol U. | Ysgol Eglwysig Cadoxton, Castell-Nedd | ||
| Perthnasau nodedig | Rees Stephens (mab) | ||
| Gyrfa rygbi'r undeb | |||
| Gyrfa'n chwarae | |||
| Safle | Prop | ||
| Clybiau amatur | |||
| Blynyddoedd | Clwb / timau | ||
| ? | Clwb Rygbi Castell-Nedd | ||
| Timau cenedlaethol | |||
| Blynydd. | Clybiau | Capiau | |
| 1912-1919 | Cymru | 10 | (0) |
Roedd Glyn Stephens (29 Tachwedd 1891 – 22 Ebrill 1965) yn brop i rygbi undeb rhyngwladol Cymru a chwaraeodd rygbi clwb i Gastell-nedd. Enillodd 10 cap ar gyfer Cymru a bu'n gapten ar ei wlad. Roedd yn dad i Rees Stephens, chwaraewr rygbi rhyngwladol Cymru, a ddaeth yn ddiweddarach yn lywydd Undeb Rygbi Cymru.
Enillodd Stephens ei gap gyntaf i Gymru yn erbyn Lloegr ar 20 Ionawr 1912 mewn gêm yn Twickenham. Collodd Cymru'r gêm, ond roedd Stephens yn ôl am y tair gêm nesaf ym Mhencampwriaeth y Pum Gwlad. Chwaraeodd Stephens nid yn unig yng ngemau y cenhedloedd cartref ond hefyd yn wynebu De Affrica ar y daith yn 1912. Ar ôl y rhyfel, chwaraeodd ei gêm ryngwladol ddiwethaf pan oedd yn gapten ar dim Cymru yn erbyn Byddin Seland Newydd. Wedi iddo ymddeol o'r gêm, daeth yn rhan o reolaeth rygbi ac ym 1956 daeth yn lywydd Undeb Rygbi Cymru.
Cymru[2]
Informasi ini disarikan dari Wikipedia dan disajikan kembali untuk tujuan edukasi. Konten tersedia di bawah lisensi CC BY-SA 3.0. Kami tidak bertanggung jawab atas ketidakakuratan data yang bersumber dari kontribusi publik tersebut.