Giuseppe Mazzini

Giuseppe Mazzini
Ganwyd22 Mehefin 1805 Edit this on Wikidata
Genova Edit this on Wikidata
Bu farw10 Mawrth 1872 Edit this on Wikidata
o pliwrisi Edit this on Wikidata
Pisa Edit this on Wikidata
DinasyddiaethTeyrnas yr Eidal, Ymerodraeth Ffrengig Gyntaf Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Prifysgol Genoa Edit this on Wikidata
Galwedigaethgwleidydd, athronydd, llenor, newyddiadurwr, beirniad llenyddol Edit this on Wikidata
Swyddaelod o Siambr Dirprwyon Teyrnas yr Eidal Edit this on Wikidata
Plaid WleidyddolGiovine Italia Edit this on Wikidata
TadGiacomo Mazzini Edit this on Wikidata
MamMaria Drago Edit this on Wikidata
llofnod

Arweinydd gwleidyddol a gwladgarwr o'r Eidal oedd Giuseppe Mazzini (22 Mehefin 180510 Mawrth 1872). Bu ganddo ran bwysig yn y Risorgimento a arweiniodd at uno'r Eidal.

Bywgraffiad

Ganed Mazzini yn Genova, a oedd yr adeg honno yn rhan o Weriniaeth Ligwria a than reolaeth ymerodraeth Ffrainc. Roedd yn dad, Giacomo, yn Brifathro yn y Brifysgol. Aeth Giuseppe ei hun i'r brifysgol pan nad oedd ond 15 oed, a graddiodd yn y gyfraith yn 1826.

Yn 1830, teithiodd i Twscani, lle daeth yn aelod o fudiad y Carbonari. Carcharwyd ef yn Savona yr un flwyddyn. Wedi ei ryddhau, symudodd i ddinas Genefa yn y Swistir, yna yn 1831 i Marseille. Yno, ffurfiodd gymdeithas newydd, La giovine Italia ("Yr Eidal Ieuanc"), oedd yn anelu at uno gwladwriaethau'r Eidal yn un wlad.

Yn 1833 cynlluniwyd gwrthryfel, ond darganfuwyd y cynllun gan lywodraeth Savoia. Dienyddiwyd 12 o bobl, a chondemniwyd Mazzini i farwolaeth yn ei absenoldeb. Symudodd i Baris, yna i Lundain yn 1837. Gwnaed nifer o ymdrechion eraill i drefnu gwrthryfel. Ym 1848 aeth i Milan, lle roedd y boblogaeth wedi gwrthryfela yn erbyn y garsiwn Awstriaidd. Dechreuodd Rhyfel Annibyniaeth Cyntaf yr Eidal, ond bu'n fethiant. Ymunodd Mazzini â byddin Giuseppe Garibaldi, ac aeth i'r Swistir gyda Garibaldi. Ar 9 Chwefror 1849, cyhoeddwyd Gweriniaeth Rhufain, a gorfodwyd Pab Pius IX i ffoi iGaeta. Daeth Mazzini i Rufain, lle daeth yn arweinydd y llywodraeth newydd, ond ychydig fisoedd yn ddiweddarach, wedi i fyddin Ffrainc gefnogi'r Pab, bu raid iddo ddychwelyd i'r Swistir.

Ceisiodd drefnu nifer o wrthryfeloedd yn y blynyddoedd nesaf, ond heb lawer o lwyddiant. Bu farw yn Pisa yn 1872, a chladdwyd ef yn Genova, gyda 100,000 o bobl yn yr angladd.

Llyfryddiaeth

  • D. J. Williams, Mazzini (1954). Astudiaeth o safbwynt cenedlaetholdeb Cymreig.

Cyfeiriadau

Strategi Solo vs Squad di Free Fire: Cara Menang Mudah!