Pensaer a cherflunydd o'r Eidal oedd Gian Lorenzo Bernini (7 Rhagfyr1598 - 28 Tachwedd1680). Ysgrifennir ei enw cyntaf hefyd fel Gianlorenzo. Gweithiai yn yr arddull Baroc.
Bu gan Bernini, gyda'i gystadleuydd mawr Francesco Borromini, ddylanwad fawr ar gynllun dinas Rhufain fel y mae heddiw. Mae hefyd yn adnabyddus fel cerflunydd; ei waith enwocaf efallai yw ei gerflun Dafydd.