Gerald Davies

Gerald Davies
Ganwyd7 Chwefror 1945 Edit this on Wikidata
Llan-saint Edit this on Wikidata
Dinasyddiaethy Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Alma mater
Galwedigaethchwaraewr rygbi'r undeb, newyddiadurwr Edit this on Wikidata
Taldra174 centimetr Edit this on Wikidata
Pwysau74 cilogram Edit this on Wikidata
Gwobr/auCBE Edit this on Wikidata
Chwaraeon
Tîm/auClwb Rygbi Caerdydd, Y Barbariaid, Tîm rygbi'r undeb cenedlaethol Cymru, Clwb Rygbi Cymry Llundain, Tîm rygbi'r undeb Prifysgol Caergrawnt, Loughborough Students RUFC, Clwb Rygbi Llanelli, Y Llewod Prydeinig a Gwyddelig Edit this on Wikidata
SafleCanolwr, Asgellwr Edit this on Wikidata
Gwlad chwaraeonCymru Edit this on Wikidata

Cyn-chwaraewr rygbi'r undeb o Gymru yw Syr Thomas Gerald Reames Davies (ganed 7 Chwefror 1945). Bu'n chwarae tros Gymru rhwng 1966 and 1978.

Ganed ef yn Llansaint, a'i addysgu yn Mhrifysgol Loughborough a Phrifysgol Caergrawnt

Bu'n chwarae i Glwb Rygbi Caerdydd a Chlwb Rygbi Cymry Llundain. Enillodd ei gap cyntaf dros Gymru yn erbyn Awstralia yng Nghaerdydd ar 3 Rhagfyr 1966, gêm a gollwyd 14 - 11. Enillodd 46 o gapiau dros Gymru i gyd, gan sgorio 20 cais. Roedd yn chwarae fel canolwr ar y dechrau, nes i'r hyfforddwr Clive Rowlands ei symud i'r asgell yn ystod taith i Awstralia a Seland Newydd yn 1969. Roedd yn aelod o'r tîm a gyflawnodd y Gamp Lawn yn 1971, tîm a ystyrir gan lawer fel y tîm gorau fu'n cynrychioli Cymru erioed. Cofir er orau, efallai am ei gais ym munud olaf y gêm yn erbyn yr Alban y flwyddyn honno, pan oedd yr Alban ar y blaen.

Aeth ar daith gyda'r Llewod in 1968 a 1971, gan fod yn aelod o'r tîm enwog a enillodd y gyfres o gemau prawf yn erbyn y Crysau Duonac yn 1971 dan hyfforddiant Carwyn James, yr unig dro hyd yma i'r Llewod ennill cyfres yn Seland Newydd.

Wedi ymddeol o rygbi, bu'n gweithio fel newyddiadurwr, gan ysgrifennu i'r Times. Ym mis Tachwedd 2007, cyhoeddwyd mai ef fydd rheolwr y Llewod ar eu taith i Dde Affrica yn 2009.

Cafodd Davies urdd marchog yn Anrhydeddau'r Flwyddyn Newydd 2025.[1][2]

Cyfeiriadau

  1. Andrew Baldock (30 Rhagfyr 2024). "Gerald Davies left 'dumbstruck' and 'humbled' by knighthood in New Year Honours". Independent (yn Saesneg). Cyrchwyd 1 Ionawr 2025.
  2. "Anrhydeddau'r Flwyddyn Newydd: Urddo Gerald Davies yn farchog". BBC Cymru Fyw. Cyrchwyd 1 Ionawr 2025.

Strategi Solo vs Squad di Free Fire: Cara Menang Mudah!