arrondissement mayor, Aelod o Gynulliad Cenedlaethol Ffrainc, Gweinidog Rhyfel, Llywydd y Cyngor, senator of the French Third Republic, Llywydd y Cyngor, Aelod o Gynulliad Cenedlaethol Ffrainc, seat 3 of the Académie française
Roedd yn député yn y cynulliad o 1875 ymlaen ac yn arweinydd y Chwith radicalaidd. Roedd Clemenceau yn areithydd penigamp ac yn enwog am ei huodledd darbwyllol; cafodd ei lysenwi le Tombeur de ministères ("Dymchwelwr gweinidogion") ac, yn ddiweddarach, le Tigre ("y Teigr").
Roedd yn gryf o blaid y radicalwr Dreyfus (1859-1935) a ymgyrchai dros hawliau dynol. Gwasanaethodd fel Arlywydd y Cyngor (Président du Conseil) o 1906 i 1909, pan dorrodd oddi wrth y sosialwyr.
Dychwelodd i rym fel prif weinidog yn 1917 ac ymroddodd yn llwyr i'r Rhyfel Fawr gan ennill cryn boblogrwydd iddo'i hun mewn canlyniad. Cymerodd ran yn y trafodaethau heddwch ar ddiwedd y rhyfel ac arwyddodd Cytundeb Versailles.