Geoffrey Ashe

Geoffrey Ashe
Ganwyd29 Mawrth 1923 Edit this on Wikidata
Llundain, Acton, Llundain Edit this on Wikidata
Bu farw30 Ionawr 2022 Edit this on Wikidata
Glastonbury Edit this on Wikidata
Man preswylGlastonbury Edit this on Wikidata
Dinasyddiaethy Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Alma mater
Galwedigaethllenor, hanesydd Edit this on Wikidata
Gwobr/auMBE, Cymrawd o'r Gymdeithas Frenhinol a Llenyddol Edit this on Wikidata

Hanesydd o Loegr sydd wedi ysgrifennu nifer o lyfrau am y brenin Arthur yw Geoffrey Ashe (29 Mawrth 192330 Ionawr 2022).[1]

Ganed Ashe yn Llundain a treuliodd rai blynyddoedd yng Nghanada, gan raddio ym Mhrifysgol British Columbia, Vancouver, cyn mynd ymlaen i Brifysgol Caergrawnt.

Ei lyfr cyntaf oedd King Arthur's Avalon: The Story of Glastonbury, (1957). Ef yw prif gynheilydd y theori mai Riothamus oedd yr Arthur hanesyddol, syniad a gyflwynodd am y tro cyntaf mewn erthygl yn y cylchgrawn Speculum yn 1981, ac yn ddiweddarach mewn llyfrau, The Discovery of King Arthur (1985) a The Landscape of King Arthur (1987). Cred y gall fod cymeriad Arthur fod wedi dod o nifer o ffynonellau, ond mai'r sail i stori Sieffre o Fynwy am ymgyrchoedd Arthur yng Ngâl oedd ymgyrch Riothamus yno yn erbyn y Fisigothiaid.

Bu Ashe ynglŷn a'r cloddio archaeolgeol yn Cadbury Castle yng Ngwlad yr Haf yn 1966-70 dan arweiniad Leslie Alcock. Hawliodd yr hynafiaethydd John Leland yn y 16g mai yma yr oedd safle Camelot. Darganfuwyd fod amdiffynfeydd wedi eu hail-adeiladu yma yn niwedd y 5g.

Cyfeiriadau

  1. "We'll meet again in Avalon, Geoffrey Ashe". Sean Poage (yn Saesneg). 31 Ionawr 2022. Cyrchwyd 2 Chwefror 2022.

Strategi Solo vs Squad di Free Fire: Cara Menang Mudah!