Fflach

Label a stiwdio recordio yng Nghymru yw Fflach. Fe'i sefydlwyd ym 1980 gan aelodau y grŵp Ail Symudiad sef y ddau frawd, Richard a Wyn Jones, Gareth Lewis a Ro

Fflach
Fflach
Math
label recordio
Sefydlwyd1981
SefydlyddAil Symudiad
PencadlysAberteifi
Gwefanhttp://www.fflach.co.uk/ Edit this on Wikidata

Label a stiwdio recordio yng Nghymru yw Fflach. Fe'i sefydlwyd ym 1980 gan aelodau y grŵp Ail Symudiad sef y ddau frawd, Richard a Wyn Jones, Gareth Lewis a Robin Davies.

Record gyntaf y label oedd y sengl Twristiaid yn y Dre a ryddhawyd yn gynnar yn 1981.[1] Yn ogystal â recordio caneuon Ail Symudiad; aeth y cwmni ymlaen i recordio a ryddhau cynnyrch nifer fawr o grŵpiau eraill, gan gynnwys Y Ficar, Eryr Wen, Malcolm Neon, Angylion Stanley, Y Diawled, Rocyn a Maffia Mr Huws.

Sefydlwyd stiwdio mewn festri capel yn Aberteifi cyn symud yn ddiweddarach i Heol Dinbych-y-Pysgod, ble newidiwyd adeilad allanol i fod yn stiwdio. Yn ddiweddarach ffurfiwyd is-labeli er mwyn ryddhau mathau gwahanol o gerddoriaeth gan gynnwys corau, canu gwerin a cherddoriaeth roc.

Yn dilyn marwolaethau y brodyr Richard a Wyn yn 2021, daeth cynlluniau i ail-lansio fel cwmni cydweithredol. Ar ddiwedd 2024 cyhoeddwyd y bwriad i werthu cyfranddaliadau i unigolion er mwyn creu cwmni newydd 'Fflach Cymunedol' fydd yn berchen i'r gymuned.[2]

Is-labeli

  • fflach:tradd. Sefydlwyd ym 1997 er mwyn hybu cerddoriaeth draddodiadol Gymreig yng Nghymru ac yn rhyngwladol.
  • Rasp. Sefydlwyd yn 2000 ar gyfer cerddoriath pop a roc.

Detholiad artistiaid

Ar Fflach

Ar Rasp

Ar fflach:tradd

Cyfeiriadau

  1. "Ail Symudiad - WICI". wici.porth.ac.uk. Cyrchwyd 2025-08-07.
  2. "Label recordiau Fflach Cymunedol yn agor cyfranddaliadau i gefnogi'r cwmni newydd". newyddion.s4c.cymru. 2025-08-07. Cyrchwyd 2025-08-07.

Dolenni allanol

Content Disclaimer

Informasi ini disarikan dari Wikipedia dan disajikan kembali untuk tujuan edukasi. Konten tersedia di bawah lisensi CC BY-SA 3.0. Kami tidak bertanggung jawab atas ketidakakuratan data yang bersumber dari kontribusi publik tersebut.

  1. The information displayed on this website is sourced in part or in whole from Wikipedia and has been adapted for the purpose of restating it. We strive to provide accurate and relevant information, however:
  2. There is no guarantee of absolute accuracy. Wikipedia is an open, collaborative project that can be edited by anyone, so information is subject to change.
  3. It is not intended to constitute professional advice. The content displayed is for informational and educational purposes only. For important decisions (e.g., medical, legal, or financial), please consult a professional.
  4. Content copyright. Wikipedia is licensed under the Creative Commons Attribution-ShareAlike License (CC BY-SA). This means that content may be reused with appropriate attribution and shared under a similar license.
  5. Responsible use. Any risk arising from the use of information from this website is entirely the responsibility of the user.