Gêm fideo ar gyfer Microsoft Windows, PlayStation 4 ac Xbox1 yw Fallout76 a lansiwyd ar 14 Tachwedd 2018; fe'i datblygwyd gan Bethesda Game Studios a'i gyhoedd
| Enghraifft o: | gêm fideo |
|---|---|
| Cyhoeddwr | Bethesda Softworks |
| Gwlad | Unol Daleithiau America |
| Rhan o | Quakecon 2020 Bundle |
| Iaith | Saesneg, Rwseg, Pwyleg, Sbaeneg, Portiwgaleg Brasil, Tsieineeg Traddodiadol, Coreeg, Japaneg, Eidaleg, Almaeneg, Ffrangeg |
| Dyddiad cyhoeddi | 14 Tachwedd 2018, 2026 |
| Genre | action role-playing game, post-apocalyptic video game |
| Cyfres | Fallout |
| Lleoliad y gwaith | Gorllewin Virginia |
| Cyfarwyddwr/wyr | Jeff Gardiner |
| Cyfansoddwr | Inon Zur |
| Dosbarthydd | Bethesda Softworks, Steam, PlayStation Store, Microsoft Store, Humble Store |
| Gwefan | https://fallout.bethesda.net/games/fallout-76 |
| Sgriptiwr | Emil Pagliarulo |
| Dynodwyr | |
Gêm fideo ar gyfer Microsoft Windows, PlayStation 4 ac Xbox1 yw Fallout76 a lansiwyd ar 14 Tachwedd 2018; fe'i datblygwyd gan Bethesda Game Studios a'i gyhoeddi gan Bethesda Softworks fel rhan o'r gyfres Fallout.
Dyma gêm gyntaf Bethesda ar gyfer aml-chwaraewr, ar gyfer chwarae arlein. Mae ar ffurf 'byd agored' sy'n dilyn rhyfel niwclear.
Pan gyhoeddwyd Fallout 76 aeth yn syth i'r trydydd safle yn siartiau'r Deyrnas Unedig, yn syth o dan Spyro Reignited Trilogy a Red Dead Redemption 2.[1][2] Syrthiodd pris y gêm yng Ngogledd America, llai nag wythnos wedi iddo gael ei lansio, gyda rhai'n nodi i'r gostyngiad ddigwydd gan nad oedd y gwerthiant yn fawr.[3]
Ceir sawl math o ddŵr yn Fallout76: dŵr wedi'i ferwi, dŵr budr a dŵr pur. Mae ymbelydredd ymhobman, yn ogystal â'r dŵr. Ar y tir gwastad, deuir o hyd i bethau i greu mathau gwahanol o ddiodydd fel te blodyn crameniat a sudd tato. Mae yna rai diodydd sydd yna cyn y rhyfel e.e. nuka cola, nuka cola cherry a nuka cola quantum.
Mae'r bwyd yn un or pethau bwysicaf sydd ei angen ar dir gwastraff.
Informasi ini disarikan dari Wikipedia dan disajikan kembali untuk tujuan edukasi. Konten tersedia di bawah lisensi CC BY-SA 3.0. Kami tidak bertanggung jawab atas ketidakakuratan data yang bersumber dari kontribusi publik tersebut.