Falcon Heavy

Mae'r Falcon Heavy yn gerbyd lansio trwm iawn i gludo cargo i orbit y Ddaear, a thu hwnt; mae'n roced y gellir ei hailddefnyddiol yn rhannol. Mae wedi'i ddyluni

Falcon Heavy
Falcon Heavy
Enghraifft o:model o gerbyd Edit this on Wikidata
MathFalcon 9, arch-gerbyd lansio all godi pwysau trwm, cerbyd lansio all godi pwysau trwm Edit this on Wikidata
GwladUnol Daleithiau America Edit this on Wikidata
GwneuthurwrSpaceX Edit this on Wikidata
Gwefanhttp://spacex.com/falcon-heavy Edit this on Wikidata
Dynodwyr
Freebase/M/0gl0bgh edit this on wikidata
QuoraFalcon-heavy edit this on wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Mae'r Falcon Heavy yn gerbyd lansio trwm iawn i gludo cargo i orbit y Ddaear, a thu hwnt; mae'n roced y gellir ei hailddefnyddiol yn rhannol. Mae wedi'i ddylunio, ei gynhyrchu a'i lansio gan y cwmni awyrofod Americanaidd SpaceX, un o hoff brosiectau'r biliwnydd Elon Musk.

Mae'r roced yn cynnwys silindr craidd canolig, gyda dwy roced Falcon 9 atodol yn sownd ynddi, ac ail ran (uchaf) uwchben y rhain.[1] Gan y Falcon Heavy mae'r ail gapasiti uchaf, o ran y llwyth y gall ei gario, a hynny o unrhyw gerbyd lansio a oedd yn weithredol yn 2023, y tu ôl i System Lansio Gofod NASA (SLS), a'r pedwerydd uchaf o unrhyw roced i gyrraedd orbit erioed, yn llusgo y tu ôl i'r SLS (UDA cyfoes), Energia (Rwsia yn y 1980au) a Sadwrn V (UDA 1960au-70au).

Lansiad cyntaf y Falcon Heavy
Falcon Heavy (yn cynnwys manylebau'r Falcon 9 Block 5 ar y pad lansio ym Mehefin 2019

Cynhaliodd SpaceX lansiad cyntaf y Falcon Heavy ar 6 Chwefror 2018, am 20:45 UTC.[2] Fel llwyth dymi, cludwyd yn y roced y car Tesla Roadster a oedd yn perthyn i sylfaenydd SpaceX, Elon Musk, gyda mannequin o'r enw "Starman" yn eistedd yn sedd y gyrrwr.[3] Digwyddodd ail lansiad Falcon Heavy ar 11 Ebrill 2019, a dychwelodd y tair cyfnerthyddion (boosters) yn llwyddiannus i'r Ddaear.[4] Digwyddodd trydydd lansiad Falcon Heavy (eto'n llwyddiannus) ar 25 Mehefin 2019. Ers hynny, mae Falcon Heavy wedi cymryd rhan yn y rhaglen Lansio Gofod Diogelwch Cenedlaethol (NSSL) yr Unol Daleithiau.[5]

Dyluniwyd y Falcon Heavy i allu cludo bodau dynol i'r gofod a thu hwnt i orbit isel y Ddaear, ond erbyn Chwefror 2018 dywedwyd mai Starship fyddai'n cludo pobl ac nid y Falcon Heavy.[6] Felly, disgwylir i Falcon Heavy a Falcon 9 gael eu disodli yn y pen draw gan system lansio Starship, sy'n cael ei datblygu yn Boca Chica, Tecsas.[7]

Hanes

SpaceX yn torri'r dywarchen gyntaf yng Nghanolfan Awyrlu Vandenberg, SLC-4E ym Mehefin 2011 ar gyfer pad lansio Falcon Heavy

Trafodwyd cysyniadau ar gyfer cerbyd lansio Falcon Heavy gan ddefnyddio tri cyfnerthyddion (boosters) craidd Falcon 1, gyda chapasiti llwyth-i-LEO o tua dwy dunnell,[8] i ddechrau mor gynnar â 2003. Cyfeiriwyd yn 2005 at y cysyniad o ddefnyddio tri cyfnerthydd craidd Falcon 9 y cwmni - roced nad oedd wedi'i hedfan eto.[9]

Datgelodd SpaceX y cynllun ar gyfer y Falcon Heavy i'r cyhoedd mewn cynhadledd newyddion yn Washington, DC, yn Ebrill 2011, a disgwylir taith brawf gychwynnol yn 2013.[10]

Cynhaliwyd yr hediad prawf cyntaf o'r Falcon Heavy ar 6 Chwefror 2018, am 20:45 UTC, gan gario ei lwyth ffug, sef Tesla Roadster personol Elon Musk.[2]

Cyllid

Soniodd Musk am Falcon Heavy am y tro cyntaf mewn datganiad i'r wasg ym Medi 2005, gan gyfeirio at gais cwsmer a gawsant 18 mis ynghynt.[11] Datblygwyd y Falcon Heavy gyda chyfalaf preifat Musk o dros US$500 miliwn. Ni ddarparwyd unrhyw gyllid gan lywodraeth UDA ar gyfer ei ddatblygiad.[12]

Dylunio a datblygu

O'r chwith i'r dde, Falcon 1, Falcon 9 v1.0, tair fersiwn o Falcon 9 v1.1, tair fersiwn o Falcon 9 v1.2 (gyrriant llawn), tair fersiwn o Falcon 9 Block 5, Falcon Heavy a Falcon Heavy Block 5

Mae dyluniad y Falcon Heavy'n seiliedig ar prif rannau ac injans y Falcon 9. Erbyn 2008, roedd SpaceX wedi anelu at lansio'r Falcon 9 cyntaf yn 2009, tra byddai "Falcon 9 Heavy yn dilyn mewn ychydig o flynyddoedd". Wrth siarad yng Nghynhadledd Cymdeithas Mawrth yn 2008, dywedodd Musk ei fod yn disgwyl y byddai cam uchaf tanwydd hydrogen yn dilyn dwy i dair blynedd yn ddiweddarach (hy tua 2013).[13]

Yn 2015, cyhoeddodd SpaceX nifer o newidiadau i roced Falcon Heavy, a gweithiwyd ar yr un pryd i uwchraddio cerbyd lansio Falcon 9 v1.1.[14] Yn Rhagfyr 2016, rhyddhaodd SpaceX lun yn dangos y Falcon Heavy diweddaraf ym mhencadlys y cwmni yn Hawthorne, California.[15]

Yng Ngorffennaf 2017, trafododd Musk yn gyhoeddus yr heriau o brofi cerbyd lansio cymhleth fel y Falcon Heavy tair-roced, gan nodi bod llawer iawn o'r dyluniad newydd "yn wirioneddol amhosibl ei brofi ar y Ddaear" ac mai drwy brofion hedfan gwirioneddol yn unig y gellir ei dreialu.

Erbyn Medi 2017, roedd pob un o'r tri graidd cam cyntaf wedi cwblhau eu profion tân statig ar y Ddaea.[16]

Ar 6 Chwefror 2018, ar ôl oedi o dros ddwy awr oherwydd gwyntoedd cryfion,[17] cododd Falcon Heavy o'r Ddaear am 20:45 UTC.[2] Glaniodd ei cyfnerthyddion ochr yn ddiogel ar Barthau Glanio 1 a 2 ychydig funudau'n ddiweddarach.[18] Fodd bynnag, dim ond un o'r tair injan ar y prif cyfnerthydd canol a daniodd yn ystod y disgyniad, gan achosi i'r cyfnerthydd chwalu'n racs wrth daro'r cefnfor ar gyflymder o dros 480 km/awr (300 m/awr).[19][20]

Flwyddyn ar ôl yr ehediad demo llwyddiannus hon, roedd SpaceX wedi arwyddo pum cytundeb masnachol gwerth UD$ 500-750 miliwn, sy'n golygu iddyn nhw lwyddo i dalu cost datblygu'r roced.[21] Digwyddodd yr ail hedfaniad, a'r un fasnachol gyntaf, ar 11 Ebrill 2019,[22] gan lansio Arabsat-6A, gyda'r tri cyfnerthyddion yn glanio'n llwyddiannus am y tro cyntaf.

Ailddefnyddio

Dau gyfnerthydd y Falcon Heavy yn glanio ar yr un pryd yn Cape Canaveral - parthau 1 a 2 yn dilyn hedfaniad prawf ar 6 Chwefror 2018

Gall cystadleuwyr o 2024 ymlaen gynnwys SpaceX Starship (100+ t i LEO), New Glenn Blue Origin (45 t i LEO), Terran R Relativity Space (34 t i LEO), ac United Launch Alliance (ULA) Vulcan Centaur ( 27 t i LEO).

Cyfeiriadau

  1. "Falcon 9 Overview". SpaceX. 8 Mai 2010. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 5 Awst 2014.
  2. 2.0 2.1 2.2 Harwood, William (6 Chwefror 2018). "SpaceX Falcon Heavy launch puts on spectacular show in maiden flight". CBS News. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 6 Chwefror 2018. Cyrchwyd 6 Chwefror 2018.
  3. "Elon Musk's huge Falcon Heavy rocket set for launch". BBC News. 6 Chwefror 2018. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 6 Chwefror 2018. Cyrchwyd 6 Chwefror 2018.
  4. SpaceX (10 Awst 2018), Arabsat-6A Mission, https://www.youtube.com/watch?v=TXMGu2d8c8g, adalwyd 11 Ebrill 2019
  5. Erwin, Sandra (21 Medi 2019). "Air Force certified Falcon Heavy for national security launch but more work needed to meet required orbits". SpaceNews. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 27 Ebrill 2021. Cyrchwyd 22 Medi 2019.
  6. Pasztor, Andy. "Elon Musk Says SpaceX's New Falcon Heavy Rocket Unlikely to Carry Astronauts". Wall Street Journal. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 6 Chwefror 2018. Cyrchwyd 6 Chwefror 2018.
  7. Foust, Jeff (29 Medi 2017). "Musk unveils revised version of giant interplanetary launch system". SpaceNews. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 8 Hydref 2017. Cyrchwyd 3 Mai 2018.
  8. "An Interview with Elon Musk". HobbySpace. 25 Awst 2003. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 12 Chwefror 2022. Cyrchwyd 14 Chwefror 2022.
  9. Gaskill, Braddock (10 Hydref 2005). "SpaceX reveals Falcon 1 Halloween date". NASASpaceFlight.com. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 31 Ionawr 2019. Cyrchwyd 31 Ionawr 2019.
  10. Clark, Stephen (5 Ebrill 2011). "SpaceX enters the realm of heavy-lift rocketry". Spaceflight Now. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 23 Awst 2013. Cyrchwyd 13 Medi 2017.
  11. Musk, Elon (20 Rhagfyr 2005). "June 2005 through September 2005 Update". SpaceX. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 4 Gorffennaf 2017. Cyrchwyd 24 Mehefin 2017.
  12. Boozer, R. D. (10 Mawrth 2014). "Rocket reusability: a driver of economic growth". The Space Review 2014. http://www.thespacereview.com/article/2466/1. Adalwyd 25 Mawrth 2014.
  13. Musk, Elon (16 Awst 2008). "Transcript – Elon Musk on the future of SpaceX". shitelonsays.com. Mars Society Conference, Boulder Colorado. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 15 Mawrth 2017. Cyrchwyd 24 Mehefin 2017.
  14. de Selding, Peter B. (20 Mawrth 2015). "SpaceX Aims To Debut New Version of Falcon 9 this Summer". SpaceNews. Cyrchwyd 23 Mawrth 2015.
  15. SpaceX (28 Rhagfyr 2016). "Falcon Heavy interstage being prepped at the rocket factory. When FH flies next year, it will be the most powerful operational rocket in the world by a factor of two". Instagram. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 3 Rhagfyr 2017. Cyrchwyd 24 Mehefin 2017.
  16. "SpaceX performs crucial test fire of Falcon Heavy, potentially paving way for launch". The Verge. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 24 Ionawr 2018. Cyrchwyd 24 Ionawr 2018.
  17. @ (6 Chwefror 2018). "Continue to monitor the upper level wind shear. New T-0 is 3:45 p.m. EST, 20:45 UTC" (Trydariad) – drwy Twitter.CS1 maint: numeric names: authors list (link)
  18. @ (6 Chwefror 2018). "Falcon Heavy side cores have landed at SpaceX's Landing Zones 1 and 2" (Trydariad) – drwy Twitter.CS1 maint: numeric names: authors list (link)
  19. "SpaceX Landed the Falcon Heavy's Two Boosters, But Its Core Clipped Its Drone Ship at 300 MPH". Gizmodo. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 7 Chwefror 2018. Cyrchwyd 7 Chwefror 2018.
  20. "The middle booster of SpaceX's Falcon Heavy rocket failed to land on its drone ship". The Verge. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 7 Chwefror 2018. Cyrchwyd 7 Chwefror 2018.
  21. "A year after the colossal SpaceX rocket's debut, Falcon Heavy has 'high value' uses – despite skepticism". CNBC. 8 Chwefror 2019. Archifwyd o'r gwreiddiol ar November 2, 2019. Cyrchwyd November 2, 2019.
  22. "SpaceX Falcon Heavy launch with Arabsat reset for Tuesday". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 12 Ebrill 2019. Cyrchwyd 12 Ebrill 2019.

Content Disclaimer

Informasi ini disarikan dari Wikipedia dan disajikan kembali untuk tujuan edukasi. Konten tersedia di bawah lisensi CC BY-SA 3.0. Kami tidak bertanggung jawab atas ketidakakuratan data yang bersumber dari kontribusi publik tersebut.

  1. The information displayed on this website is sourced in part or in whole from Wikipedia and has been adapted for the purpose of restating it. We strive to provide accurate and relevant information, however:
  2. There is no guarantee of absolute accuracy. Wikipedia is an open, collaborative project that can be edited by anyone, so information is subject to change.
  3. It is not intended to constitute professional advice. The content displayed is for informational and educational purposes only. For important decisions (e.g., medical, legal, or financial), please consult a professional.
  4. Content copyright. Wikipedia is licensed under the Creative Commons Attribution-ShareAlike License (CC BY-SA). This means that content may be reused with appropriate attribution and shared under a similar license.
  5. Responsible use. Any risk arising from the use of information from this website is entirely the responsibility of the user.