Arwyddodd Working Title Films gytundeb gydag Universal Studios ym 1999 a roddodd y pŵer i Bevan a Fellner i gomisiynnu ffilmiau gyda chyllid o $35 miliwn (UDA) heb iddynt orfod dderbyn caniatad eu meistri. Bellach, y cwmni hwn yw'r cwmni cynhyrchu annibynnol mwyaf ym Mhrydain gyda swyddfeydd yn Llundain ac yn Los Angeles. Mae eu llwyddiannau'n cynnwys Four Weddings And A Funeral (1994) a wnaeth dros $250 (UDA) miliwn yn fyd eang. Enillodd Dead Man Walking a FargoOscars ym 1996 ac ym 1997, tra bod Elizabeth (1998) ac Atonement (2007) wedi cael eu henwebu am y Ffilm Orau yng Ngwobrau'r Academi.