Cynhaliwyd Eisteddfod Genedlaethol Cymru Meirion a'r Cyffiniau 2009 ar gaeau Stad Rhiwlas, ger Y Bala, Gwynedd, rhwng y 1af a’r 8fed o Awst. Roedd cost yr Eisteddfod yn £3.3 miliwn gyda'r gronfa leol wedi codi £290,000, sef £90,00 yn fwy na'r targed.[2]
Oherwydd yr holl law yn ystod yr wythnosau a oedd yn arwain at yr eisteddfod, roedd y maes ei hun mewn stâd reit ddrwg ar ddydd Sadwrn cyntaf yr ŵyl. Dywedodd y prif weithredwr, Elfed Roberts, fod y sefyllfa'n "edrych yn ddigon blêr ar y Maes ond bod gweithwyr yn ceisio cymoni a gosod ffyrdd i lawr". Erbyn canol yr wythnos, roedd cyflwr llawr y maes wedi gwella'n sylweddol oherwydd gwellhad yn y tywydd ac ymdrechau i gorchuddio'r ardaloedd gwlyb efo lloriau.
Dyfarnwyd nad oedd neb yn deilwng yn 2009, ac atalwyd y gadair am y tro cyntaf ers 1998. Dywedodd y cyn-ArchdderwyddSelwyn Iolen (yn absenoldeb Dic Jones) ei bod yn "bwysicach cadw safon na chynnal seremoni".
Y Coroni
Enillydd y goron oedd y Prifardd Ceri Wyn Jones am gerddi wedi'u cyflwyno i'w ewythr, y diweddar Barchedig Aled ap Gwynedd.
Y Fedal Aur am Bensaernïaeth: penseiri canolfan ymwelwyr Hafod Eryri, y ganolfan newydd ar gopa'r Wyddfa gafodd ei hagor ym mis Mehefin.
Y Fedal Aur am Grefft a Dylunio: Lowri Davies, crochenydd o Gaerdydd, sy'n derbyn £5,000 fel gwobr am ei gwaith cerameg.
Y Fedal Aur am Gelfyddyd Gain: Elfyn Lewis, Porthmadog, am ei baentiadau haniaethol.
Dysgwr y Flwyddyn
Y pedwar a aeth ymlaen i'r rownd derfynol oedd: John Burton, Zoë Morag Pettinger, Meggan Lloyd Prys a Dominic Gilbert.
Enillydd Dysgwr y Flwyddyn 2009 oedd Meggan Lloyd Prys.
Am y tro cyntaf erioed roedd yn bosib i bawb drwy'r byd wylio'r Brifwyl wrth i BBC Cymru ddarlledu'r digwyddiadau yn fyw ar y we, gydag Arfon Haines Davies a Sara Edwards yn sylwebu'n fyw ar y digwyddiadau. Roedd y darllediadau drwy gyfrwng y Saesneg.[4]
Prif swyddogion y pwyllgor gwaith
Cadeirydd: Elfyn Llwyd, Llanuwchllyn
Is-gadeiryddion: Gerallt Hughes, Arthog; Evie Morgan Jones, Llanbedr; Geriant Lloyd Jones, Penrhyndeudraeth; Dilwyn Morgan, Y Bala