Pentref, cymuned a phlwyf eglwysig ym mwrdeistref sirol Conwy, Cymru, yw Eglwys-bach[1][2] neu Eglwysbach. Hyd at tua 1904 yr enw a ddefnyddid yn lleol oedd "Banc Llan". Mae'r pentref yn gorwedd ar lôn wledig mewn dyffryn bychan yn y bryniau sy'n ymestyn i'r dwyrain fel cainc o Ddyffryn Conwy, sef Dyffryn Hiraethlyn. Mae tua 3 milltir i'r de o bentref Llansanffraid Glan Conwy (Glan Conwy), rhwng cymunedau bychain Graig a Pentre'r Felin. Mae'r plwyf yn gorwedd rhwng plwyfi Llansanffraid a Maenan.
Mae'r pentref yn adnabyddus am Sioe Eglwysbach, sioe amaethyddol a gynhelir yno ym mis Awst bob blwyddyn, ac sy'n cynnwys arddangosfeydd gwartheg, defaid a cheffylau, arddangosfeydd blodau, reidiau ffair a stondinau amrywiol.
Yn ôl Cyfrifiad 2001, roedd 54% o drigolion Eglwysbach yn medru'r Gymraeg, ffigwr sy'n uwch na'r cyfartaledd ar gyfer sir Conwy ond sy'n sylweddol llai nag yn y gorffennol, yn bennaf oherwydd mewnfudo i'r ardal a diffyg tai fforddiadwy i bobl ifainc leol.
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Eglwys-bach) (448)
49%
:Y ganran drwy Gymru
19%
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Eglwys-bach) (550)
58.8%
:Y ganran drwy Gymru
73%
Y nifer rhwng 16 – 64 oed sydd mewn gwaith (Eglwys-bach) (136)
34.6%
:Y ganran drwy Gymru
67.1%
Enwogion
John Evans, un o bregethwyr enwocaf Cymru yn y 19g. Cyfeiria pobl ato fel "John Evans, Eglwysbach", ar hyd ei oes.
Ffynonellau
E. D. Rowlands, Dyffryn Conwy a'r Creuddyn (Lerpwl: Gwasg y Brython, 1947)
Cyfeiriadau
↑Gwyddoniadur Cymru (Gwasg Prifysgol Cymru), tud. 324
↑Dictionary of Place-names of Wales (Gwasg Gomer, 2007), tud. 138
↑"Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. Cyrchwyd 2012-12-12.. Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nier sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.