Edith Nepean |
---|
Ganwyd | 1876 Llandudno |
---|
Bu farw | 23 Mawrth 1960 Ealing |
---|
Dinasyddiaeth | Cymru |
---|
Galwedigaeth | llenor, newyddiadurwr |
---|
Tad | John Bellis |
---|
Priod | Molyneux Edward Nepean |
---|
Roedd Edith Nepean (1876 – 23 Mawrth 1960) yn awdures Gymreig yn yr iaith Saesneg. Fe'i ganwyd yn Llandudno yn 1876. Ei henw bedydd oedd Mary Edith Bellis ac roedd yn ferch i John Bellis o Landudno.[1]
Bywgraffiad
Daeth yn 'Nepean' wrth briodi Molyneux Edward Nepean (mab i Syr Evan Colville Nepean) ar 27 Chwefror 1899.[1]
Roedd hi'n weithredol yn y Groes Goch yng Nghaint. Drwy ei phriodas i deulu Nepean mae hi wedi ymddangos yn Burkes Peerage.[2] Bu farw ar 23/03/1960 yn Ealing, Llundain, LLoegr, ond mae ei bedd ym mynwent Pen y Gogarth, Llandudno.[1]
Gwaith llenyddol
O 1920 ymlaen roedd hi'n ysgrifennu i'r cylchgrawn Picture Show ac i Film Pictorial yn cynnwys y gyfres Around the British Studios. Roedd hi hefyd yn sgriptwraig a nofelydd, ymhlith ei gwaith mae 34 o nofelau rhamantaidd yn cynnwys Gwyneth of the Welsh Hills (1917).
Enillodd wobr Meritul Cultural Romania yn rhannol am ei gwaith efo Sipsiwn Rwmania. Yn 1932 enillodd achos enllib yn erbyn Caradoc Evans ac roedd rhaid iddo olygu ei nofel Wasps 1933, cyn cyhoeddi.[1]
Llyfryddiaeth ddethol
- Gwyneth of the Welsh Hills (1917, Stanley Paul & Co.)
- Cambria's Fair Daughter (1923)
- Sweetheart of the Valley (1927)
- Romance & Realism in the Near East (1934)
Yn y Gymraeg mae'r trosiadau a ganlyn:
- Gemau yn y llwch. Llyfrfa'r Methodistiaid Calfinaidd, 1970. ISBN 0901330337
- Petalau yn y gwynt. Llyfrfa'r Methodistiaid Calfinaidd 1971. ISBN 0901330396
Cyfeiriadau