Tref a phlwyf sifil yn Swydd Nottingham, Dwyrain Canolbarth Lloegr, ydy Eastwood.[1] Fe'i lleolir yn ardal an-fetropolitan Bwrdeistref Broxtowe. Saif 8 milltir (13 km) i'r gogledd-orllewin o Nottingham, a 10 milltir (16 km) i'r gogledd-ddwyrain o Derby, ar y ffin rhwng Swydd Nottingham a Swydd Derby.
Yng Nghyfrifiad 2011 roedd gan y plwyf sifil boblogaeth o 10,695.[2]
Cyfeirir at y lle yn Llyfr Dydd y Farn (1086).[3] Ehangodd yn gyflym yn ystod y Chwyldro Diwydiannol. Mae'n adnabyddus fel man geni yr nofelydd D. H. Lawrence.
Cyfeiriadau