Etholwyd y Sais John Douglas Wilson Carswell (ganed 3 Mai 1971) yn Aelod Seneddol cyntaf UKIP yn Is-etholiad Clacton, 2014,[1] gan gynrychioli etholaeth Clacton yn Essex.[2]
Cyn hynny bu'n Aelod Seneddol dros y Blaid Geidwadol yn etholaeth Harwich. Newidiodd ei got gwleidyddol yn Awst 2014, gan droi o'r Blaid Geidwadol ac at UKIP. Ymddiswyddodd ar unwaith o'r Blaid Geidwadol a golygai hyn fod y sedd yn wag, ac felly cynhaliwyd Is-etholiad Clacton. Eglurodd mai'r rheswm pam y newidiodd ei deyrngarwch at UKIP oedd ei ddymuniad i weld "newid syfrdanol o fewn gwleidyddiaeth Prydain; nid yw arweinwyr y Ceidwadwyr yn seriws, dydn nhw ddim yn dymuno newid."[3]
Ar 25 Mawrth 2017 cyhoeddodd ei fod yn gadael UKIP gan ddod yn aelod seneddol annibynnol, yn dilyn ffrae gyhoeddus rhyngddo a chyn-arweinydd UKIP, Nigel Farage ac ariannwr y blaid Arron Banks.[4] Penderfynodd beidio sefyll eto yn etholiad brys Mehefin 2017 gan roi ei gefnogaeth i'r ymgeisydd Ceidwadol.[5]
Gweler hefyd
Cyfeiriadau