Disgfyd

Cyfres o nofelau ffantasi comig yw llyfrau'r Disgfyd (Saesneg: Discworld) a ysgrifennwyd gan y nofelydd Saesneg, Terry Pratchett. Mae'r gyfres wedi ei osod ar f

Disgfyd
Y nofel gyntaf yn y gyfres Ddisgfyd, The Colour of Magic.

Cyfres o nofelau ffantasi comig yw llyfrau'r Disgfyd (Saesneg: Discworld) a ysgrifennwyd gan y nofelydd Saesneg, Terry Pratchett. Mae'r gyfres wedi ei osod ar fyd fflat sydd wedi ei gydbwyso ar gefn pedwar eliffant sydd yn eu tro yn sefyll ar gefn crwban enfawr, Great A'Tuin, sy'n nofio trwy'r gofod. Mae'r llyfrau yn aml yn gwatwar neu fenthyg syniadau J. R. R. Tolkien, Robert E. Howard, H. P. Lovecraft, a William Shakespeare, yn ogystal â chwedlau a llên gwerin. Bydd Pratchett yn aml yn cyfosod y rhain gyda materion diwylliannol, technolegol a gwyddonol i'w satireiddio.

Ers y nofel gyntaf, The Colour of Magic (1983), mae'r gyfres wedi ehangu, gyda nifer o fapiau, straeon byr, cartŵn ac addasiadau drama yn cael eu cyhoeddi. Darlledwyd yr addasiad drama gyntaf ar gyfer teledu (cyfres ddwy-ran o'r Hogfather) dros Nadolig 2006. Mae yna gynlluniau i greu addasiadau ffilm ar gyfer rhai o'r llyfrau Disgfyd eraill.

Mae'r nofelau Disgfyd yn aml ar frig rhestrau arch-werthwr llyfrau yng ngwledydd Prydain, a Terry Pratchett oedd awdur mwyaf llwyddiannus yr 1990au (a'r awdur mwyaf llwyddiannus yn y Deyrnas Unedig cyn i J.K. Rowling (awdures Harri Potter) ei oddiweddyd). Mae'r llyfrau Disgfyd hefyd wedi ennill nifer o wobrau fel y wobr Prometheus a'r fedal Carnegie. Yn rhestr Big Read y BBC, roedd pedwar llyfr Disgfyd yn y 100 uchaf, a chyfanswm o un-deg-pedwar llyfr yn y 200 uchaf.

Nofelau

Ar hyn o bryd (2009), mae yna 35 llyfr yn y gyfres Ddisgfyd (gan gynnwys 4 llyfr i blant/oedolion ifanc). Roedd gan yr argraffiadau Prydeinig gwreiddiol o'r 26 llyfr cyntaf celf clawr nodedig gan y darluniwr Josh Kirby. Ers marwolaeth Josh Kirby yn 2001, mae llyfrau newydd Disgfyd ers The Last Hero wedi eu darlunio gan Paul Kidby, ac mae argraffiadau diweddar o'r llyfrau cynnar yn defnyddio celf fwy minimalaidd i apelio tuag at fwy o oedolion.

Mae nifer o'r nofelau yn cynnwys yr un prif gymeriadau ac yn dangos eu datblygiad dros amser. Yn ogystal â hynny, bydd nifer o gymeriadau'n gwneud ymddangosiadau cameo mewn llyfrau eraill lle nad ydynt yn un o'r prif gymeriadau. Er bod dim ffurf swyddogol i grwpio'r nofelau, gellir eu rhannu i mewn i îs-gyfresau sy'n dilyn nifer o archion storiâu a chymeriadau tebyg:

Content Disclaimer

Informasi ini disarikan dari Wikipedia dan disajikan kembali untuk tujuan edukasi. Konten tersedia di bawah lisensi CC BY-SA 3.0. Kami tidak bertanggung jawab atas ketidakakuratan data yang bersumber dari kontribusi publik tersebut.

  1. The information displayed on this website is sourced in part or in whole from Wikipedia and has been adapted for the purpose of restating it. We strive to provide accurate and relevant information, however:
  2. There is no guarantee of absolute accuracy. Wikipedia is an open, collaborative project that can be edited by anyone, so information is subject to change.
  3. It is not intended to constitute professional advice. The content displayed is for informational and educational purposes only. For important decisions (e.g., medical, legal, or financial), please consult a professional.
  4. Content copyright. Wikipedia is licensed under the Creative Commons Attribution-ShareAlike License (CC BY-SA). This means that content may be reused with appropriate attribution and shared under a similar license.
  5. Responsible use. Any risk arising from the use of information from this website is entirely the responsibility of the user.