Dinas yn nhalaith Sachsen-Anhalt yn nwyrain canolbarth yr Almaen yw Dessau. Saif ar gydlif Afon Mulde ac Afon Elbe, i'r gogledd-ddwyrain o Halle an der Saale. C
| Math | Ortsteil, bwrdeistref yr Almaen, cyn-ardal dinesig |
|---|---|
| Poblogaeth | 83,616 |
| Daearyddiaeth | |
| Gwlad | |
| Arwynebedd | 182.81 km² |
| Uwch y môr | 63 metr |
| Gerllaw | Mulde, Afon Elbe |
| Cyfesurynnau | 51.8342°N 12.2461°E |
| Cod post | 06842, 06844, 06846, 06847, 06849, 06861, 06862 |
![]() | |
| Statws treftadaeth | Safle Treftadaeth y Byd |
| Manylion | |
Dinas yn nhalaith Sachsen-Anhalt yn nwyrain canolbarth yr Almaen yw Dessau. Saif ar gydlif Afon Mulde ac Afon Elbe, i'r gogledd-ddwyrain o Halle an der Saale. Codwyd y dref Almaenig ar anheddiad Sorbaidd, ac o 1213 mae'r cofnod cyntaf o Dessau. Trigai cowntiaid, tywysogion, a dugiaid Anhalt yn Dessau o 1603 hyd 1918.[1]
Symudodd y Bauhaus i Dessau o Weimar ym 1925, ac yno bu'r ysgol bensaernïol honno nes i'r Natsïaid ei chau ym 1933. Dynodwyd adeiladau Bauhaus y ddinas yn Safle Treftadaeth y Byd gan UNESCO ym 1996, a Gerddi Dessau-Wörlitz cyfagos yn 2000. Ymhlith ei feibion a merched o nod mae'r athronydd Moses Mendelssohn a'r arlunwyr Friederike Julie Lisiewska ac Angelika Tübke.
Informasi ini disarikan dari Wikipedia dan disajikan kembali untuk tujuan edukasi. Konten tersedia di bawah lisensi CC BY-SA 3.0. Kami tidak bertanggung jawab atas ketidakakuratan data yang bersumber dari kontribusi publik tersebut.