Sant o Gymro oedd Deiniolen (fl. diwedd y 6g a dechrau'r 7g). Roedd yn fab i Sant Deiniol, nawddsant dinas Bangor, ac am hynny'n cael ei alw'n Ddeiniolfab neu Ddeiniol Fab yn ogystal. Roedd yn ŵyr i Sant Dunawd. Dethlir ei ddydd gŵyl ar 22 Tachwedd, yn flynyddol.
Bywgraffiad
Dywedir iddo fod yn fynach ym mynachlog Bangor-is-y-coed ond gorfu iddo ffoi oddi yno ar ôl Brwydr Caer (tua 613). Daeth i ardal Bangor a sefydlodd gell ac eglwys yn Llanddeiniolen. Roedd ffynnon ger yr eglwys a elwid yn Ffynnon Ddeiniolen, ffynnon a oedd yn iachau cleifydau ac anhwylderau.
Ceir Llanddeiniol Fab ar Ynys Môn hefyd, ger Llanidan.
Cyfeiriadau