Deian a Loli

Deian a Loli
Math o gyfrwnggwaith llenyddol Edit this on Wikidata
IaithCymraeg Edit this on Wikidata

Nofel fer gan Kate Roberts yw Deian a Loli, a gyhoeddwyd yn 1927. Dyma'r ail lyfr gan yr awdures i gael ei gyhoeddi, yn dilyn y gyfrol o straeon byrion O Gors y Bryniau (1925). Cyfeirir ato weithiau fel llyfr plant, ond stori am blant ydyw, yn hytrach nag un ar gyfer plant.

Mae'r nofel yn darlunio'r berthynas rhwng dau efaill, mab a merch, sy'n glos ill dau ond yn meddu ar gymeriadau gwahanol iawn. Mae'r nofel yn dilyn eu datblygiad emosiynol o'u plentyndod cynnar hyd at adael yr ysgol elfennol a gorfod dechrau wynebu bywyd fel oedolion. Lleolir y stori mewn ardal chwarelyddol dychmygol sy'n seiliedig ar fro gogledd Arfon.

Mae Laura Jones, pedwerydd llyfr Kate Roberts, yn ddilyniant i'r nofel. Mae Laura Jones yn gorffen mewn gwagle, fel petai, sy'n awgrymu y bwriadai'r awdures ysgrifennu dilyniant arall, ond ni chafwyd un.


Llyfrau Kate Roberts
Deian a Loli | Ffair Gaeaf | Gobaith | Haul a Drycin | Hyn o Fyd | Laura Jones | Prynu Dol | O Gors y Bryniau | Rhigolau Bywyd | Stryd y Glep | Tegwch y Bore | Te yn y Grug | Traed Mewn Cyffion | Tywyll Heno | Y Byw Sy'n Cysgu | Y Lôn Wen | Yr Wylan Deg


Eginyn erthygl sydd uchod am lenyddiaeth. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.

Strategi Solo vs Squad di Free Fire: Cara Menang Mudah!