Mae Deddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Ansawdd ac Ymgysylltu) (Cymru) 2020 yn Ddeddf Senedd Cymru a gafodd gydsyniad brenhinol ar 1 Mehefin 2020 ac a ddaeth yn gyfraith ar 1 Mehefin 2020.[1] Manylwyd arni gyntaf ym Mehefin 2019 trwy gyfrwng Memorandwm Esboniadol.[2] Cafodd Bil Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Ansawdd ac Ymgysylltu) (Cymru) 2020 ei basio gan y Senedd – a arferai gael ei galw yn Gynulliad Cenedlaethol Cymru – ar 17 Mawrth 2020 a bwriedir iddi gael ei rhoi ar waith yn 2022. Caiff hyn ei wneud cyn gynted ag y bydd yn bosibl yng ngoleuni’r pandemig Covid-19.
Mae’r Bil yn cynnig cyflwyno newidiadau sy’n:
- Gosod ystyriaethau ansawdd wrth galon pob rhan o’r GIG yng Nghymru,
- Cryfhau llais dinasyddion ar draws gwasanaethau iechyd a gwasanaethau cymdeithasol, gyda Chorff Llais Dinasyddion newydd ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol (yn lle Cynghorau Iechyd Cymunedol);
- Gosod dyletswydd gonestrwydd ar sefydliadau’r GIG, gan ei gwneud yn ofynnol iddynt fod yn agored ac yn onest pan fydd pethau’n mynd o’u lle; a
- Chryfhau’r trefniadau llywodraethu ar gyfer Ymddiriedolaethau’r GIG, drwy gyflwyno rôl Is-gadeirydd ar gyfer pob Ymddiriedolaeth.
Yn 2018, nododd yr Adolygiad Seneddol o Iechyd a Gofal Cymdeithasol yng Nghymru nifer o argymhellion gan gynnwys rhai’n ymwneud â gwella ansawdd gwasanaethau ac integreiddio agosach rhwng iechyd a gofal cymdeithasol. Mae'r rhain yn elfennau allweddol yn ymateb Llywodraeth Cymru: Cymru Iachach: ein Cynllun Iechyd a Gofal Cymdeithasol ac yn cael eu hategu gan ddarpariaethau yn y Ddeddf.
Bydd gwelliannau parhaus i'r ansawdd yn allweddol i sicrhau bod system iechyd a gofal cymdeithasol Cymru yn barod ar gyfer y dyfodol, a'i bod yn rhoi gwerth am arian. Ac fe fydd sefydlu Corff Llais y Dinesydd, ar gyfer iechyd a gwasanaethau cymdeithasol, yn sicrhau bod lleisiau dinasyddion yn cael eu clywed yn glir ac y gwrandewir arnynt. Bydd hyn yn helpu i ddarparu gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol sydd wedi’u llunio yn unol ag anghenion a dewisiadau unigolion.
Cyfeiriadau
Dolenni allanol