Roedd David Randell (1854 - 5 Mehefin, 1912) yn wleidydd Rhyddfrydol Cymreig ac yn Aelod Seneddol Gŵyr.[1]
Bywyd Personol
Ganwyd Randell yn Llanelli yn ail fab i John Randell, groser, a Mary Jones, ei wraig.[2]
Cafodd ei addysgu yn Ysgol y Parch Thomas Jones, Llanelli ac Ysgol Dr Condor, Wandsworth
Priododd Sarah Ann merch Richard George Llanidloes ym 1880; bu iddynt ddau o blant.
Gyrfa
Cymhwysodd fel cyfreithiwr ym 1878 ac aeth i mewn i bartneriaeth gyda Griffith Saunders, a oedd a phractis cyfreithiol helaeth yng Ngorllewin Cymru. Roedd y rhan fwyaf o'i waith fel cyfreithiwr yn ymwneud ag amddiffyn gweithwyr yn erbyn eu meistri yn y gweithfeydd tunplat a'r pyllau glo ac yn erlyn y perchenogion am ymarfer yn annheg tuag at y gweithwyr ac am fethu a sicrhau eu diogelwch.
Gyrfa Wleidyddol
Wedi marwolaeth Frank Ash Yeo AS ym 1888 gwahoddodd Cymdeithas Ryddfrydol Gŵyr Syr Horace Davey, cyn AS Christchurch Swydd Dorset i sefyll yn yr isetholiad i ganfod olynydd iddo fel eu hymgeisydd. Roedd Syr Horace yn un o hoelion wyth y Blaid Ryddfrydol a daeth, yn ddiweddarach, yn Gyfreithiwr Cyffredinol Cymru a Lloegr; ond yr oedd yn Sais bonheddig a bu cryn anghydfod ymysg pleidleiswyr dosbarth gweithiol yr etholaeth parthed ei ddewis - yr oeddynt hwy am gael aelod lleol, o gefndir dosbarth gweithiol; gan hynny tynnodd Syr Horace allan o'r ras a gwahoddwyd David Randell i sefyll fel yr ymgeisydd.
Enillodd Randell yr isetholiad a chadwodd gafael ar y sedd hyd iddo ymddeol o'r Senedd ar sail iechyd ar adeg etholiad cyffredinol 1900.
Roedd Randell yn cael ei ystyried fel AS radical, roedd yn genedlaetholwr Cymreig, yn selog yn ei gefnogaeth i ddatgysylltu Eglwys Lloegr yng Nghymru, yn frwd dros hunain lywodraeth i Gymru, yn gefnogwr triw i hawl merched i gael y bleidlais ac yn gyfaill i'r dosbarth gweithiol. Trwy gydol ei aelodaeth o'r Senedd bu sïon ei fod ar fin ymadael ar Blaid Ryddfrydol ac am ymaelodi efo'r Blaid Lafur Annibynnol[3] a chafodd sawl cais i sefyll fel ymgeisydd Llafur[4] ar ôl ymadael a'r Senedd, ond fe arhosodd yn driw i'r Blaid Ryddfrydol hyd ei farwolaeth ym 1912.
Cyfeiriadau
- ↑ What It Was like in 1888 [1] adalwyd 18 Ebrill 2015
- ↑ RANDELL, David, Who Was Who, A & C Black, an imprint of Bloomsbury Publishing plc, 1920–2015; online edn, Oxford University Press, 2014 ; online edn, April 2014 [2], adalwyd 17 Ebrill 2015 trwy docyn darllen LLGC
- ↑ MR DAVID RANDELL, M.P. IS HE GOING OVER TO THE "INDEPENDENTS ? South Wales Daily Post - 24 Gorffennaf 1894 [3] adalwyd 19 Ebrill 2015
- ↑ Mr. David Randell for Gower Cambrian 23 Medi 1904 [4] adalwyd 19 Ebrill 2015