Roedd yn enwog am ganu opera, oratorio, a chyngerdd, ac yn arbennig am ei berfformiadau o Verdi a Mozart. Mae hefyd yn enwog am ganu hen emynau a chaneuon traddodiadol Cymreig. Fe'i dilynir heddiw (2015) gan y tenor Rhys Meirion, un o'i edmygwyr mawr. David Lloyd oedd un o'r cyntaf i fanteisio ar dechnoleg 'newydd' ei oes, sef y gallu i recordio'r llais, er mwyn cyrraedd cynulleidfa ehangach, fyd-eang.
Y cyfnod cynnar
Roedd yn un o saith o blant, ac roedd ei dad yn lowr; gadwodd yr ysgol pan oedd yn 14 oed er mwyn cychwyn fel prentis saer coed. Cychwynodd eisteddfota'n ifanc iawn ac yn 1933 cychwynodd fel myfyriwr yn y Guildhall School of Music, Llundain, wedi iddo ennill ysgoloriaeth drwy gymorth Walter Hyde. Bu'n gryn llwyddiant yn y coleg a chipiodd sawl gwobr safonol.[1]
Gyrfa
Yn 1938 cafodd chwarae rhan Macduff yn yr opera Macbeth gan Verdi - yng Ngŵyl Opera Glyndebourne; dyma oedd y perfformiad cyntaf o'r opera hon yng ngwledydd Prydain.[2] Yna cafodd ran flaenllaw fel y prif denor yng Ngŵyl Mozart yng Ngwlad Belg ac yn ddiweddarach yn y flwyddyn mewn gŵyl Verdi, yn Nenmarc.
Ond pan ddaeth hi'n Rhyfel Byd yn 1939, bu'n rhaid iddo ymuno â'r Y Gwarchodlu Cymreig, lle treuliodd y pum mlynedd nesaf yn filwr ifanc.
Yn 1946 dychwelodd i'r llwyfan, ac ef oedd y prif denor mewn gŵyl yn yr Iseldiroedd: (Gŵyl Mozart a Verdi). O fewn dim, dychwelodd i wledydd Prydain lle bu'n denor yng Ngŵyl Verdi.
Damwain
Tra'n gweithio ar raglen gan y BBC, disgynnodd dros geblau nad oeddent wedi'u gorchuddio, ac anafodd ei asgwrn cefn. Am y chwe mlynedd dilynol, methodd a chanu. Ymddangosodd unwaith - a hynny yn Eisteddfod Rhyngwladol Llangollen yng Ngorffennaf 1960.