David Lewis Prosser |
---|
Ganwyd | 10 Mehefin 1868, 1868 |
---|
Bu farw | 28 Chwefror 1950, 1950 |
---|
Dinasyddiaeth | Cymru |
---|
Alma mater | |
---|
Galwedigaeth | offeiriad |
---|
Swydd | esgob |
---|
David Lewis Prosser (10 Mehefin 1868 - 28 Chwefror 1950) oedd trydydd Archesgob Cymru.
Ganed ef yn Llangynnor, Sir Gaerfyrddin, yn fab i David ac Elizabeth Prosser. Addysgwyd ef yng Ngholeg Llanymddyfri a Coleg Keble, Rhydychen. Ordeiniwyd ef yn 1892, a daeth yn gurad yn Aberystwyth. Yn 1896, daeth yn gurad yn Abertawe, yna yn 1909 yn ficer Doc Penfro. Apwyntiwyd ef yn Archddiacon Tyddewi yn 1920, yna yn 1927 cysegrwyd ef yn Esgob Tyddewi.
Yn 1944, etholwyd ef fel trydydd Archesgob Cymru. Ymddeolodd yn 1949.