David Jones |
---|
Ffugenw | Davydd Hael o Dowyn |
---|
Dinasyddiaeth | Cymru |
---|
Un o Gymry Llundain oedd David Jones (1768 – 8 Ebrill 1837) a chymwynaswr i achosion a sefydliadau Cymreig ei gyfnod.
Fe’i ganed yn y Caethle, fferm ar gyrion Tywyn Meirionnydd, yn 1768, yn fab i David a Bridget Jones, a'i fedyddio yn Eglwys Cadfan ar 24 Awst y flwyddyn honno.[1] Aeth i Lundain yn ei fabandod a byw yno weddill ei oes. Roedd yn rhugl ei Gymraeg a dywedid bod ganddo’r casgliad gorau o lyfrau Cymraeg a Chymreig yn y ddinas.
Gweithiodd am oddeutu deugain mlynedd fel swyddog yn yr ‘Engrossing Office’ yn Nhŷ’r Cyffredin. Roedd yn enwog am ei haelioni wrth ei gyd-Gymry ac fe gefnogai unrhyw achos neu sefydliad a hyrwyddai fuddiannau’r wlad.[2] Ar ei farwolaeth, dywedodd cylchgrawn The Spectator ei fod yn enwog drwy Gymru dan yr enw ‘Davydd Hael o Dowyn’.[3]
Ymaelododd â chymdeithas y Gwyneddigion yn 1819, gan ddod yn aelod o’i chyngor.[4]
Bu David Jones farw ar 8 Ebrill 1837 yn ei gartref yn 20 Adam Street, Adelphi yn Ninas Westminster. Roedd yn 68 mlwydd oed. Fe'i claddwyd yn eglwys Ioan Efengylydd, Westminster, ar 12 Ebrill 1837.[5]
Cyfeiriadau