Cyfansoddwr Cymreig oedd David Jenkins (30 Rhagfyr 1848 – 10 Rhagfyr 1915), sy'n fwyaf adnabyddus am ei weithiau corawl ac alawon emynau. Ganwyd yn Nhrecastell ger Aberhonddu. Prentis teiliwr oedd Jenkins yn wreiddiol, ond dechreuodd astudio cerddoriaeth ym Mhrifysgol Aberystwyth yn 1874, o dan adain Joseph Parry. Dychwelodd i Aberystwyth fel darlithydd yn 1893, a daeth yn Athro yn 1910. Roedd yn byw yng Nghastell Brychan, Aberystwyth - sydd bellach yn gartref i Gyngor Llyfrau Cymru.
Strategi Solo vs Squad di Free Fire: Cara Menang Mudah!