Actor o Loegr yw Syr David John White OBE (ganwyd 2 Chwefror 1940), a adnabyddir yn well fel ei enw llwyfan David Jason. Mae'n fwyaf adnabyddus am ei rannau fel Derek "Del Boy" Trotter yn Only Fools and Horses a Ditectif Arolygydd Jack Frost yn nrama drosedd ITV A Touch of Frost.
Fe'i ganwyd yn Edmonton, Llundain, yn fab i Arthur R White a'i wraig, y Gymraes Olwen (nee Jones) o Ferthyr Tudful.
Bywyd personol
Ei bartner rhwng 1977 a'i marwolaeth yn 1995 oedd yr actores o Gymru Myfanwy Talog. Priododd Gill Hinchcliffe ar 30 Tachwedd 2005.
Ar 26 Chwefror 2001, yn 61 mlwydd oed daeth Jason yn dad i ferch fach, Sophie Mae. Fe'i ganed i'w gariad Gill Hinchcliffe.[1] Prioddd Jason and Hinchcliffe yn 2005 ac maent yn byw yn Ellesborough, Buckinghamshire.
Cafodd Jason berthynas fer gyda'r actores Jennifer Hill. Ar ôl i'r berthynas ddod i ben, yn 1970 ganwyd merch i Hill o'r enw Abi Harris. Nid oedd Jason yn gwybod am fodolaeth ei ferch hyd at 2022.[2][3]
Teledu
- Do Not Adjust Your Set (1967-1969)
- The Top Secret Life of Edgar Briggs (1974)
- Porridge (1975-1977)
- Open All Hours (1976-1985)
- A Sharp Intake of Breath (1977-1981)
- Only Fools and Horses (1981-2003)
- Porterhouse Blue (1987)
- The Darling Buds of May (1991-1993)
- A Touch of Frost (1992-2010)
- Terry Pratchett's Hogfather (2006)
- Terry Pratchett's The Colour of Magic (2008)
Ffilmiau
- Under Milk Wood (1972)
- Royal Flash (1975)
- The Odd Job (1978)
Cyfeiriadau