David Hanmer |
---|
Ganwyd | 1330s |
---|
Bu farw | 1387 |
---|
Dinasyddiaeth | Cymru |
---|
Galwedigaeth | barnwr |
---|
Tad | Philip Hanmer |
---|
Mam | Annes ab Dafydd |
---|
Priod | Angharad ferch Llywelyn |
---|
Plant | Margaret Hanmer, Jenkin Hanmer, Gruffudd Hanmer, Philip Hanmer, Gruffudd ap Sir David Hanmer |
---|
Gwobr/au | Marchog Faglor |
---|
Barnwr o Loegr oedd Syr David Hanmer, SL (rhwng 1370–1387), a fu'n byw yng Nghymru. Mae'n fwyaf adnabyddus fel tad-yng-nghyfraith Owain Glyn Dŵr. Fe'i cysylltir â phentref Hanmer (bwrdeistref Wrecsam heddiw). Priododd Angharad ferch Llywelyn Ddu.
Teulu'r Gororau
Er bod gwreiddiau'r teulu yn Lloegr, roedd y teulu Hanmer yn llawn cymaint o Gymry ag o Saeson. Roedd hyn yn eithaf cyffredin ymysg teuluoedd o statws tebyg a oedd yn byw ar y Gororau. Roedd gan David Hanmer gysylltiadau Cymreig cryf. Priododd ei dad, Phylip Hanmer, ferch i Gymro o'r Maelor Saesneg (y Maelor lle siaredid Saesneg). Ymhyfrydai ef yn yr enw Cymreig Dafydd ap Rhirid ab Ynyr ap Jonas o Llannerch Banna. Daeth y ferch yn fam i David Hanmer.
Priododd Owain Glyn Dŵr â Margaret Hanmer, un o ferched David Hanmer. Roedd mam y milwr enwog Mathau Goch yn ferch i David Hanmer hefyd.
Coeden Deulu Glyn Dŵr a'r Hanmeriaid