David Grossman |
---|
|
Ganwyd | דויד גרוסמן 25 Ionawr 1954 Jeriwsalem |
---|
Dinasyddiaeth | Israel |
---|
Alma mater | |
---|
Galwedigaeth | cyflwynydd radio, sgriptiwr, newyddiadurwr, awdur plant, nofelydd, llenor |
---|
Gwobr/au | Newman Prize, Gwobr Nelly Sachs, Gwobr Bernstein, Sapir Prize for Literature, Gwobr Manès-Sperber, Gwobr Bialik, Gwobr Newyddiaduraeth Cenedlaethol Ischia, The EMET Prize for Art, Science and Culture, Gwobr Geschwister-Scholl, Gwobr Heddwch y Fasnach Lyfrau Almaeneg, Gwobr Médicis am lenyddiaeth dramor, Gwobr fawr yr arwres Madame Figaro am nofel dramor, Gwobr Ryngwladol Man Booker, Gwobr Israel, Croes Cadlywydd Urdd Teilyngdod Gweriniaeth Ffederal yr Almaen, Berman Literature Prize, Gwobr Erasmus, Ze'ev Prize, Gwobr ACUM, chevalier des Arts et des Lettres, Albatros Literaturpreis, Q1733763, Brenner Prize |
---|
Awdur Israelaidd yw David Grossman (ganwyd Jerwsalem, 25 Ionawr 1954). Dechreuodd fel cyflwynydd radio cyn ennill sylw rhyngwladol yn 1989 gyda'i nofel See Under: Love, am Yr Holocost fel y'i gwelir trwy lygaid plentyn.
Mae ei gyhoeddiadau'n cynnwys nofelau, llyfrau plant, casgliadau o ysgrifau a llyfrau taith. Mae ef wedi mynegi yn gefn i heddwch yn y Dwyrain Canol yn aml. Mae wedi dangos dewrder mawr wrth fynd i’r afael â phynciau gwleidyddol anghyfforddus, yn eu plith bywyd beunyddiol mewn tiriogaethau meddiannu a’r lleiafrif Palesteinaidd yn Israel, yn ogystal â themâu megis cyfeillgarwch, byw gyda’r gorffennol, a’r rhwymau sy’n cysylltu cenedlaethau. Mae ei lyfrau wedi eu cyfieithu i fwy na 30 o ieithoedd.
Enillodd Wobr Erasmus yn 2022.[1]
Cyfeiriadau