Mae David Robert Brooks (ganwyd 8 Gorffennaf1997) yn chwaraewr pêl-droed rhyngwladol dros Gymru sy'n chwarae hefyd i glwb AFC Bournemouth. Ganwyd Brooks yn Warrington a gallai fod wedi chwarae dros ei wlad enedigol Lloegr neu dros Gymru, gan fod ei fam yn dod o Langollen. Yn wir, chwaraeodd i dimau ieuenctid cenedlaethol Lloegr (dan-20) a Chymru (dan-21) yn 2017 cyn chwarae ei gêm gyntaf dros dim dynion Cymru pan ddaeth ar y cae fel eilydd yn y gêm yn erbyn Ffrainc ar 10 Tachwedd 2017.[1]
Cafodd Brooks ei arwyddo gan Bournemouth yng Ngorffennaf 2018 ar gytundeb pedair blynedd a ffi o £11.5 miliwn yn dilyn ei berfformiadau disglair dros Sheffield United yn nhymor 2017-18.[2] Chwaraeodd ei gêm gyntaf dros Bournemouth yn y fuddugoliaeth gartref o 2-0 yn erbyn Dinas Caerdydd[3]
Cyfeiriadau
↑"France 2–0 Wales". BBC Sport. 10 November 2017. Cyrchwyd 11 November 2017.