Roedd Y Parchedig Brifardd David Adams (28 Awst 1845 - 5 Gorffennaf 1922) yn weinidog gyda'r Annibynwyr yn ddiwinydd ac yn fardd.[1]
Cefndir
Ganwyd Adams yn Nhal-y-bont, Ceredigion yn blentyn i John Adams (crydd) a Margaret ei wraig. Cafodd ei addysgu yn ysgol ramadeg Llanfihangel, Coleg Normal Bangor, Coleg Normal Abertawe a Phrifysgol Aberystwyth, lle y graddiodd B.A. ym 1877.[2]
Gyrfa
Gorfodwyd Adams i adael yr ysgol ramadeg gan ei fod yn Annibynnwr wedi i'r ysgol creu rheol mae dim ond aelodau o Eglwys Loegr oedd cael bod yn ddisgyblion yno. Wedi ei ddiarddel o'r ysgol aeth i weithio yn y mwynfeydd plwm. Ar ôl gweithio fel mwynwr am dair blynedd cafodd ei benodi yn ddisgybl athro (athro dan hyfforddiant) yn ysgol Talybont. Aeth i'r Coleg Normal ym Mangor i ddarfod ei hyfforddiant fel athro ym 1863. Ym 1867 fe'i penodwyd yn athro yn ysgol Y Bryn, Llanelli. Ar ôl ddwy flynedd yn Llanelli aeth i Goleg Normal, Abertawe lle enillodd dosbarth cyntaf yn arholiadau mynediad i brifysgol, Prifysgol Llundain.[3] Cafodd ei benodi yn athro yn Ystradgynlais ym 1870, rhoddodd y gorau i'r swydd oherwydd afiechyd ym 1872. Bu'n fyfyriwr yng Ngholeg y Brifysgol, Aberystwyth, rhwng 1874 ac 1877, pryd yr enillodd radd B.A., Prifysgol Llundain.
Ordeiniwyd Adams yn weinidog gyda'r Annibynwyr yn Hawen a Bryngwenith, Ceredigion, ym 1878.[4] Ym 1888 symudodd maes ei weinidogaeth i Fethesda, Sir Gaernarfon.[5] Symudodd i Eglwys Grove Street, Lerpwl ym 1895. Etholwyd ef yn Llywydd Undeb yr Annibynwyr yn 1913.
Bu David Adams yn amlwg yn natblygiad diwinyddiaeth athronyddol yng Nghymru. Perthynai i'r Ysgol Idealaidd mewn athroniaeth a bu'n gyfrwng i boblogeiddio'r syniadau Neo-Hegelaidd a ddaeth o'r Cyfandir i Loegr a'r Alban yng Nghymru. Gan hynny gellir ystyried Adams fel prif arloeswr diwinyddiaeth ryddfrydol yng Nghymru. Ef, yn fwy na neb arall, a fu'n gyfrifol am gyflwyno goblygiadau diwinyddol yr Athroniaeth Idealaidd i sylw ei gydwladwyr am y tro cyntaf.[6]
Bardd a llenor
Enillodd goron Eisteddfod Genedlaethol Abertawe, ym 1891, am bryddest ar y testun 'Cromwel', a bu'n llwyddiannus yn y Genedlaethol o bryd i'w gilydd am gyfansoddi traethodau athronyddol. Bu'n amlwg fel bardd ac emynydd ar ddechrau ei weinidogaeth gan fabwysiadu'r ffugenw 'Hawen,' ond fel yr âi'r blynyddoedd heibio rhoddai fwy a mwy o Ie i ddiwinyddiaeth. Dyma restr o'i lyfrau diwinyddol:
- Datblygiad (1893)
- Paul yng Ngoleuni'r Iesu (1897)
- Moeseg Gristionogol (1901)
- Yr Hen a'r Newydd mewn Diwinyddiaeth (1907)
- Esboniad ar y Galatiaid (1908)
- Llawlyfr yr Athro (1908)
- Yr Eglwys a Gwareiddiad Diweddar (1914).
Teulu
Priododd Jane Evans ym 1878 cawsant dwy ferch, Sarah Jane a Myfanwy.[7]
Marwolaeth
Bu farw yn Lerpwl yn 77 mlwydd oed. Dyfarnodd Prifysgol Cymru radd D.D. er anrhydedd iddo, ond bu farw cyn iddo fedru derbyn y radd. Ym 1924 Cyhoeddwyd cofiant iddo: Cofiant Dr. David Adams (Hawen) gan W. Parri Huws ac E. Keri Evans.
Cyfeiriadau