Un o arweinwyr y Mormoniaid yn Unol Daleithiau America oedd Daniel Jones (4 Awst1811 - 3 Ionawr1861) o Abergele. Wedi iddo ymfudo i America cafodd waith fel cychwr, a chafodd droedigaeth tra roedd wrth ei waith yn cludo credinwyr y grefydd honno mewn cwch a oedd dan ei ofal.
Roedd gyda Joseph Smith (23 Rhagfyr 1805 – 27 Mehefin 1844), sefydlydd Mudiad Saint y Dyddiau Diwethaf (neu'r 'Mormoniaid) pan lofruddiwyd ef. Y flwyddyn ddilynol dychwelodd Jones i Gymru yn genhadwr Mormonaidd. Gwnaeth Ferthyr Tydfil yn ganolfan y sect a chyhoeddodd gyfnodolyn misol, gan gynnwys Prophwyd y Jubili. Hwyliodd o Lerpwl ar 26 Chwefror, 1849, gyda 249 o Gymry, a bu'n gofalu amdanynt ar y daith ar draws y gwastadeddau gan gyrraedd Salt Lake City ar 26 Hydref 1849 gyda'r fintai yn teithio mewn 25 o wagenni caeedig. Ym mis Awst 1852 dychwelodd ar ail daith genhadol, ac yn 1856 aeth â 703 o 'seintiau Cymreig' i Salt Lake City. Treuliodd weddill ei oes yn gapten ar Lyn Great Salt. Bu farw 3 Ionawr 1861, gan adael tair gwraig a chwech o blant.[1]
Yr Athro Emeritus David Williams, D.Litt., (1900-78), Aberystwyth
Latter Day Saints Biographical Encyclopedia. A Compilation of Biographical Sketches of Prominent Men and Women in the Church of Jesus Christ of Latter-Day Saints, Salt Lake City, 1901-36
Theirs is the Kingdom, Wendell J. Ashton; Salt Lake City, 1945 (Salt Lake City, 1945 );
The Welsh Mormons gan David Williams yn The Welsh Review, 1948 .