Daisy von Pless

Daisy von Pless
Ganwyd28 Mehefin 1873, 18 Mehefin 1873 Edit this on Wikidata
Castell Rhuthun Edit this on Wikidata
Bu farw29 Mehefin 1943 Edit this on Wikidata
Wałbrzych Edit this on Wikidata
Dinasyddiaethy Deyrnas Unedig, Ymerodraeth yr Almaen Edit this on Wikidata
Galwedigaethnyrs, cymdeithaswr Edit this on Wikidata
TadWilliam Cornwallis-West Edit this on Wikidata
MamMary Cornwallis-West Edit this on Wikidata
PriodHans Heinrich XV, 3rd Prince of Pless, Count of Hochberg Edit this on Wikidata
PlantCount Bolko von Hochberg, Baron zu Fürstenstein, Hans Heinrich XVII, 4th Prince of Pleß, Aleksander Hochberg Edit this on Wikidata
LlinachHochberg Edit this on Wikidata

Roedd Daisy, Tywysoges Pless (Mary Theresa Olivia; neu Cornwallis-West; 28 Mehefin 1873 – 29 June 1943) yn ferch brydferth nodedig yn y cyfnod Edwardaidd ac yn aelod o un o'r teuluoedd bonheddig cyfoethocaf yn Ewrop. Roedd Daisy a'i gŵr,Hans Heinrich XV[1] yn berchnogion ar un o'r stadau a'r glofeydd mwyaf yn Silesia (nawr yng Ngwlad Pwyl) ddaeth â chyfoeth mawr i'r Hochbergs. Roedd ei bywyd eithafol o foethus ynghyd â digwyddiadau trychinebus a sgandalau teuluol a gwleidyddol yn fêl ar fysedd cyfryngau rhyngwladol.

Bywgraffiad

Llun o Daisy gan John Singer Sargent

Ganwyd Mary Theresa Olivia Cornwallis-West yng Nghastell Rhuthun yn Ninbych. Roedd yn ferch i Aelod Seneddol Orllewin Sir Ddinbych William Cornwallis-West a Mary ("Patsy"), merch y Parchedig Frederick Fitzpatrick. Bu sïon bod Patsy yn cael perthynas gydag Edward Tywysog Cymru.

Priododd ei chwaer, Constance (Shelagh), a Hugh Grosvenor, 2il Dug Westminster[2], un o ddynion cyfoethocaf y DU. Priododd George, ei brawd â'r Arglwyddes Randolph Churchill (Jennie Jerome), gweddw'r Arglwydd Randolph Churchill a mam Winston Churchill[3]. Ni fu'r un o'r priodasau'n llwyddiannus gan i'r tri diweddu mewn ysgariad. Daeth briodas George i ben ym 1914[4]. Daeth priodas Shelagh i ben ym 1919. Daeth priodas Tywysog a Thywysoges Pless i ben ym 1922.

Cyfeiriadau

Strategi Solo vs Squad di Free Fire: Cara Menang Mudah!