Roedd David 'Dai' Henry Lewis (4 Rhagfyr 1866 - 8 Medi 1943) yn flaenwr rygbi Cymreig a chwaraeodd rygbi clwb i Glybiau Rygbi Treganna a Chaerdydd a rygbi rhyngwladol i Gymru.
Cefndir
Ganwyd Lewis yn Radur yn fab i Jacob Lewis, ffermwr gweddol gefnog, ac Elizabeth ei wraig. Wedi gadael yr ysgol bu Lewis yn gweithio fel clerc i gwmni rheilffordd Great Western. Ym 1886 ymfudodd i Buffalo, Efrog Newydd[1] lle fu'n gwerthu beiciau ac yn niweddarach ceir. Roedd hefyd yn rasiwr beiciau amlwg yn yr Unol Daleithiau[2] ac fel ysgrifennydd yr American Automobile Association yn trefnu rasys ffordd i geir ar hyd a lled y wlad.[3] [4] Ym 1893 priododd Loretta M Meaney, bu iddynt un mab.[5]
Bu farw yn Buffalo yn 76 mlwydd oed a chladdwyd ei weddillion ym mynwent Mount Olivet, Erie County, Talaith Efrog Newydd.[6]
Gyrfa rygbi
Cafodd Lewis ei gapio gyntaf i Gymru wrth chwarae i Gaerdydd. Cafodd ei ddewis i dîm Cymru dan gapteiniaeth Charlie Newman i wynebu Lloegr yng ngêm agoriadol Pencampwriaeth y Pedair Gwlad 1886. Roedd Lewis yn un o bedwar cap newydd a ddaeth i mewn i bac Cymru, ochr yn ochr â chyd-aelod o dîm Caerdydd George Young, Evan Roberts o Lanelli a William Bowen o Abertawe. Collodd Cymru’r ornest o drwch y blewyn, ond cadwodd y dewiswyr ffydd gyda Lewis ar gyfer y gêm nesaf yn erbyn yr Alban. Roedd y gêm yn erbyn yr Alban, a chwaraewyd ym Mharc yr Arfau, Caerdydd, yn nodedig am fod y gêm ryngwladol gyntaf i weld tîm yn defnyddio'r system pedwar tri chwarter. Gyda Newman ddim ar gael, trosglwyddwyd y gapteniaeth i Frank Hancock, canolwr Caerdydd sy'n adnabyddus am gyflwyno trefn cefnwyr newydd ar lefel clwb. Gyda chwe chwaraewr o Gaerdydd yn y tîm, gan gynnwys Lewis, roedd yn cael ei ystyried yn amser da i arbrofi'r system ar lefel ryngwladol. Gwelwyd yr arbrawf yn fethiant a chafodd ei ollwng gydag effaith drychinebus hanner ffordd trwy'r ornest. Collodd Cymru'r ornest ac ni ddewiswyd Lewis i'w wlad eto.
Gemau rhyngwladol
Cymru [7]
Llyfryddiaeth
Cyfeiriadau