Gwleidydd o Dde Affrica yw Matamela Cyril Ramaphosa (ganwyd 17 Tachwedd 1952). Fe yw pumed Arlywydd De Affrica yn dilyn ymddiswyddiad Jacob Zuma.[2] Cymerodd ei swydd yn dilyn pleidlais yn y Cynulliad Cenedlaethol ar 15 Chwefror 2018.[3]
Bu'n actifydd gwrth-apartheid, arweinydd undeb llafur a dyn busnes, ac roedd wedi bod yn Ddirprwy Arlwydd De Affrica ers 2014.[4] Fe'i etholwyd yn Llywydd yr ANC yng 54eg Cynhadledd Cenedlaethol yr ANC yn Nasrec, De Johannesburg yn Rhagfyr 2017. Mae hefyd yn Gadeirydd y Comisiwn Cynllunio Cenedlaethol,[5] sy'n gyfrifol am gynllunio strategol dros ddyfodol De Affrica.[6]
Cyfeiriadau