Cyfuniad o nifer o gymunedau yw Cyngor Gwledig Llanelli ac yn un o'r cynghorau cymunedol mwyaf yng Nghymru. Mae'n cyfateb i bob pwrpas i ardal hen Gyngor Dosbarth Gwledig Llanelli a fodolai cyn adrefnnu llywodraeth leol yn 1974.
Ymestynna'r mewn hanner cylch o'r gorllewin i'r dwyrain o gwmpas tref Llanelli. Mae'n cynnwys cymunedau Pwll, Ffwrnais, Felinfoel, Dafen, Llwynhendy, Bynea a Swiss Valley (Cwm Lliedi), yn ogystal â phentrefi Pont-iets (rhan), Pont Henri a Pump-hewl.