Mae Cynghrair Rhyngwladol y Codwyr Gwastraff yn rhwydwaith a gefnogir gan filoedd o sefydliadau codi gwastraff mewn mwy na 32 o wledydd sy'n cwmpasu America Ladin, Asia ac Affrica'n bennaf. Yn y DU caiff ei gefnogi gan Women in Informal Employment: Globalizing and Organizing (WIEGO). Sylwer bod 'casglwr gwastraff' yn waith gwahanol iawn.
Sefydlwyd y Gynghrair yn Bogotá, Colombia, yn 2008, pan ddaeth 30 o wledydd at ei gilydd; fe'i trefnwyd gan Gymdeithas Codwyr Gwastraff Bogota, Kagad Kach Patra Kashtakari Panchayat codwyr gwastraff casgliad o Pune, India (KKPKP), Rhwydwaith codwyr Gwastraff America Ladin, Sefydliad Avina a Merched mewn Cyflogaeth Anffurfiol: Globaleiddio a Threfnu (WIEGO). Ers hynny, mae Pwyllgor Llywio Rhyngwladol wedi cyfarfod unwaith y flwyddyn yn Durban, Belo Horizonte, Bangkok a Pune i roi cyfeiriad i'r ymgyrch.[1]
Yn 2023 ymgasglodd cynrychiolwyr codwyr gwastraff o 19 gwlad yn Nairobi i gymryd rhan yng Nghyfarfod Cydlynu Cynghrair Rhyngwladol y Codwyr Gwastraff. Prif amcanion y cyfarfod oedd hybu cysylltiadau a meithrin ymddiriedaeth ymhlith codwyr gwastraff o'r gwahanol ranbarthau, a dathlu Diwrnod Rhyngwladol codwyr Gwastraff ar Fawrth 1af.[2]
Ymhlith amcanion y mudiad mae'r canolynol; y dylid:
- cydnabod hawliau codwyr gwastraff ei hawl i gael mynediad at y gwastraff.
- talu prisiau teg a gwell i godwyr gwastraff am adennill deunyddiau y gellir eu hailgylchu a'u hailddefnyddio.
- codi tai fforddiadwy, cyfforddus o safon i bawb sy'n codi gwastraff a'u teuluoedd.
- rhoi tendrau rheoli gwastraff i gasglwyr gwastraff ayb.
- rhoi yswiriant iechyd a bywyd ar gyfer pob casglwr gwastraff a'u teuluoedd.
Cyfeiriadau